Prynhawn da Mary
Ydw, dw i o ddifri. Ond nid bod yn goeglyd o'n i drwy ddweud bod angen "rhoi gwybod i'r ysgolion"!
Falle mod i'n anghywir, ond fe dybiwn i mai brown=brown, gwyrdd=gwyrdd yw hi ymhob ysgol, bron. Dw i ddim yn dadlau dros gael gwared ar bapur llwyd na siwgr coch, o reidrwydd, achos dw i'n cytuno'n llwyr â chi mai'r pethau sy'n ei gwneud hi'n wahanol sy'n ei gwneud hi'n brydferth (dw i'n gweld yr anogaeth i anghofio cenedl a lluosog ansoddeiriau/lliwiau wrth gyfieithu yn drueni mawr, er enghraifft).
Ond os defnyddio coch a llwyd, mae angen i bawb gael gwybod hynny, yndoes? Y broblem yw bod brown=brown yn llawer rhy amlwg a rhy debygol i neb feddwl defnyddio dim byd arall (oni bai eu bod nhw'n gwybod hynny'n barod, wrth gwrs).
Oes 'na Gymdeithas Diogelu Cymraeg Traddodiadol? Falle y dylen nhw anfon cylchlythyr at ysgolion Cymru...
O ddifri, dw i ddim yn meddwl bod diben i ni dwyllo ein hunain nad oes problem... Mae'r dewis yn amlwg:
1. Parhau â'r drefn bresennol lle mae lleiafrif bach (iawn) yn defnyddio papur llwyd a siwgr coch. Canlyniad hyn fydd diflaniad yr arfer.
2. Atgyfodi'r arfer drwy sicrhau bod plant yn dysgu hyn yr ysgol a'i fod yn cael ei arfer yn y cyfryngau ac mewn dogfennau (wedi'u cyfieithu ac eraill).
A dweud y gwir, dw i ddim yn gwybod a yw'r ail ddewis uchod yn bosib. Ond dw i'n gryf o'r farn bod angen i ni arfer termau y mae pobl sy'n darllen Cymraeg yn debygol o'u deall. Mae gwglo yn awgrymu mai prin iawn yw dim heblaw papur brown a siwgr brown. Ond da gweld bod rhai dosbarthiadau nos, o leia, yn dysgu hyn i ddysgwyr:
http://www.forumwales.com/fwforum/viewtopic.php?f=34&t=3370&start=0
Petai'r LCO iaith bondigrybwyll wedi cynnwys grym i fynnu gwasanaethau dwyieithog gan archfarchnadoedd a siopau mawr (ac mae'r ffaith nad yw'n eu cynnwys yn fethiant trychinebus...) gallem drafod labeli dwyieithog y byddai gofyn iddynt eu rhoi ar eu cynnyrch eu hunain. Wedyn falle y byddai gobaith eu hacheb, os byddai "Papur Llwyd" ar werth yn WHSmiths, a "Siwgr Coch" ar werth yn Tesco...
Osian
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Mary Jones
Sent: 09 November 2009 13:36
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ffydleman - brown envelope
Osian
Dydych chi ddim o ddifri, gobeithio! Onid priod-ddulliau sy'n gwneud un iaith yn wahanol i iaith arall? Os na, gwell ichi gael peiriannau yn eich ysgolion cynradd.
Mary
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhys Osian (AcadReg)
Sent: 09 November 2009 13:26
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ffydleman - brown envelope
Pwynt diddorol arall Ann.
O ystyried mai'r unig le y clywais i hyn o'r blaen oedd pan ddwedodd fy Nain wrtha i mai 'papur llwyd' a 'siwgwr coch' oedden nhw'n ei ddweud "adre'n blant" (hynny yw yn sir Feirionnydd y tridegau), mae'n amheus gen i mai dyna rown i, fy hunan, mewn cyfieithiad y dyddiau hyn...
Ydw i'n methu? Ydy pobl yn dal i ddweud hynny? I fi mae 'glas' yn gallu golygu green, ond brown oedd papur a siwgwr yn tŷ ni, ac yn yr ysgol byddai unrhyw beth heblaw green=gwyrdd, blue=glas, brown=brown, red=coch, grey=llwyd, yn chwerthinllyd!
Os ydyn ni am i bobl arfer papur llwyd a siwgr coch (a hyd yn oed porfa las), mae angen i athrawon ysgol gynradd gael gwybod dw i'n meddwl!
Osian
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 09 November 2009 11:24
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ffydleman - brown envelope
Cywiriad. Bum yn meddwl yn Saesneg, mae'n rhaid. "Amlen lwyd" dylwn fod
wedi'i ddweud, nid "amlen frown"!
Ann
|