...wedi'i atgyweirio ac mewn cyflwr da, efallai. Dangos mae hyn fel
arfer ai'r landlord neu'r tenant sy'n gyfrifol am y gwaith.
Wil
Carolyn wrote:
> O ran rhesymeg - os yw rhywbeth yn cael ei gadw 'in good repair' mae bownd o
> fod 'in good condition' faswn i'n meddwl. Ai enghraifft o dwrneiod yn
> dyblygu geiriau yw hyn mewn gwirionedd?
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Jones,Sylvia
> Prys
> Anfonwyd/Sent: 18 Tachwedd 2009 17:10
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: in good repair
>
> Geraint Lovgreen wrote:
>
>> peidio â chyfieithu "repair" wyt ti yn hytrach na "condition".
>>
>> ----- Original Message ----- From: "Jones,Sylvia Prys"
>> <[log in to unmask]>
>> To: <[log in to unmask]>
>> Sent: Wednesday, November 18, 2009 4:37 PM
>> Subject: in good repair
>>
>>
>> Mewn cytundeb tenantiaeth
>>
>> To keep the interior of the property, the internal decorations and the
>> Fixtures, Furnishings and Effects in good repair and condition
>>
>> to keep the drains, gutters and pipes in repair
>>
>> Ydi'n iawn defnyddio cyflwr da a jyst peidio â chyfieithu condition?
>>
>> Diolch.
>>
>
>
> Ia, ti'n iawn, fi sydd wedi ysgrifennu'r ebost yn rhy frysiog. Yn y
> cytundeb mae'r geiriau 'in good repair' yn dod ar eu pen eu hunain sawl
> gwaith. Mae G yr A yn rhoi 'mewn cyflwr da' ar gyfer 'in good repair'.
> Ond os yw'r ddau ymadrodd yn dod efo'i gilydd, fel sy'n digwydd ryw
> ddwywaith yn y cytundeb, a fyddai'n iawn i mi ddefnyddio 'mewn cyflwr
> da' i gynnwys y ddau. Am fod y peth yn gytundeb cyfreithiol mae gen i
> ofn dechrau hepgor geiriau, a meddwl oeddwn i efallai bod gwahaniaeth
> cyfreithiol rhwng 'in good repair' and 'in good condition'. Fedra i ddim
> yn fy myw feddwl beth fyddai fo chwaith.
>
> Hynny oeddwn i'n gofyn, ond yn garbwl iawn.
>
>
> Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
>
> Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
> Canolfan Bedwyr
> Prifysgol Bangor/Bangor University
>
>
|