'Dw i'n defnyddio "anghyfannedd"; efallai'ch bod chi'n iawn ei fod yn
anghyfarwydd i rai, ond mae hyn mewn set o gofnodion, lle dylai'r
cyngorhorwyr fod wedi cynefino a'r ymadrodd erbyn hyn.
Mae "disused" yn codi'n amlach o lawer na "derelict" a defnyddiaf "nas
defnyddir", felly a fyddir "nas defnyddir mwyach" yn gryfach byth.
Gwelaf fy mod i hefyd wedi defnyddio "diangen" ar gyfer "disused",ond yn
amau erbyn hyn a fyddai hynny'n ddigonol bob tro.
Gyda llaw, dyma gyfieithiadau posibl eraill mewn cyd-destunau gwahanol;
disused railway - rheilffordd ddidramwy
disused quarry - chwarel segur
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Emily Williams
Sent: 20 October 2009 14:17
To: [log in to unmask]
Subject: Derelict building
Helo bawb
Rwy'n chwilio am gyfieithiad ar gyfer y term uchod. Gweler y disgrifiad ar
waelod y neges.
Dyw 'adeilad gwag' ddim yn dweud digon (mae'n rhaid gwahaniaethu
rhwng 'vacant' a 'derelict') ac rwy'n credu bod dweud 'adeilad adfeiliedig'
yn
rhy gryf o bosibl (hynny yw, nid 'ruin' yw e)...
Byddai 'adeilad anghyfannedd' yn anhgyfarwydd i lawer iawn o bobl.
Cafodd 'adeilad segur' ei awgrymu ond o edrych ar Google rwy'n meddwl mai
am 'unused building' y defnyddir y term hwnnw. Dyma rai cynigion posibl:
adeilad wedi'i esgeuluso
adeilad gwag wedi'i dirywio
adeilad gwag dirywiedig
adeilad anghyfannedd wedi'i dirywio
Dyma ddiffiniad:
A derelict building is an empty building which shows no signs that it is
being
converted or renovated. It may not always be easy to tell the difference
between a derelict and vacant property. The deciding fact is whether the
property is suitable for anyone to live in.
If any of the floors, staircase, entrance doors or roof are partly or
completely
missing the property is probably derelict.
A property that has been boarded up to prevent vandalism or occupation by
squatters is considered to be vacant, and not derelict.
Diolch yn fawr
|