Rwy'n meddwl ei fod yn air eitha cyfarwydd yn y de - rwy wedi clywed 'ito'
e.e. 'Dyw'r crwt 'm yn ito dim'. Mae Mary Wiliam yn rhoi enghreifftiau yn
'Blas ar Iaith Blaenau'r Cymoedd' - "Paid 'ito" a "Gwi ddim nito [n'ito?]
dima goch ....
A gair eitha cyffredin yn y de yw 'dihitans', yn cyfateb i 'di-hid' y
gogledd.
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Mark Nodine
Anfonwyd/Sent: 23 Medi 2009 17:26
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Hitia Mono Fi
Am ryw rheswm, mi ges i'r argraff bod 'hidio' yn air gogleddol.
On'd ydy hynny'n wir?
--Mark
Catrin Beard wrote:
> Dwi wedi cael cais i gyfieithu cerdd gan filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf
> a anfonwyd i'w gariad, a'r teitl, sydd hefyd yn ffurfio llinell olaf
> pob pennill yw 'Hitia Mo'no, mo'no fi'
>
> Wn i ddim o ble'r oedd y milwr yn dod, ond mae cyfeiriad at 'ffunen' -
> 'Sych y deigryn hefo'r ffunen / Roddais am dy wddw gwyn' felly
> gogleddol (sir Fon?) fyddwn i'n tybio. O chwilio ar y we, mae gan Tony
> ac Aloma (sir Fon eto) gan o'r enw 'Hitia Mono Fi'.
>
>
>
> Tybed a oes unrhyw un yn gwybod beth mae hyn yn ei olygu? Ai
> 'anghofia amdanaf i' neu 'paid a phoeni amdanaf i'?
>
>
>
> Dyma'r pennill cyntaf:
>
>
>
> Anwyl eneth, paid a wylo
>
> Os wyf fi yn mynd i ffwrdd
>
> Fe ddaw rhywun arall heibio
>
> I dy garu a dy gwrdd
>
> Ifanc oeddwn a difeddwl
>
> Pan yn rhodio gyda thi
>
> Os yn gariad wedi'i cwbl
>
> Hitia mo'no mo'no fi
>
>
>
> Diolch am unrhyw gymorth
>
> Catrin
>
>
>
>
>
|