Mae 'peiriant cyfieithu' Tranexp wedi bod ar y we ers blynyddoedd
lawer bellach ac yn gyfrifol am rhan fwyaf o'r cam-gyfieithiadau
sydd wedi ymddangos ar arwyddion a taflenni.
Mae nhw'n gyfrifol felly am wastraffu arian pan fod angen cywiro
arwyddion wedi eu cam-gyfieithu.
Dyw e ddim yn joc bellach, yn enwedig wrth weld rhai cyrff cyhoeddus
yn ei ddefnyddio ar gyfer cyfieithiadau 'syml' (pan mae pobl yn trio
osgoi mynd trwy system gyfieithu 'swyddogol' a biwrocrataidd).
Er enghraifft, dyma enghraifft gan Gyngor Caerdydd o 2007
http://www.flickr.com/photos/dafydd/478568848/
Mae nifer o bobl wedi trio darbwyllo y cwmni sy'n gyfrifol am y
meddalwedd ei fod yn warthus a cwbl annibynnadwy a wnes i ofyn i Fwrdd
yr Iaith i weld os oedden nhw yn gallu gwneud unrhywbeth ynglyn a'r
peth hefyd.
Hyd yn os nad yw'n bosib cael y cwmni i dynnu'r peth lawr o'r we,
mi fasech chi'n disgwyl fyddai cyrff cyhoeddus yn gwybod erbyn
hyn i beidio a'i ddefnyddio, a fe ddylai cwmniau preifat (yng
Nghymru o leia) wybod lle i fynd i gael cyfieithiadau safonol.
Mae Bwrdd yr Iaith wedi methu yn y dasg o addysgu busnesau (a
chynghorau yn amlwg), a dwi ddim yn gweld be mae Cymdeithas y
Cyfieithwyr wedi gwneud chwaith. Os nad yw'r cyrff yma wedi llwyddo i
newid pethau mewn degawd, pa obaith sydd i unrhywun arall?
|