Llawer iawn o ddiolch, Huw. Roeddwn i'n chwilio am rywbeth damaid yn
fwy cryno am y math yma o gawod gan fod lle yn brin, ond efallai mai
gwneud lle rhywsut fydd raid.
Diolch yn fawr iawn am y llun! Bydd yn her i roi meddwl ar waith.
Efallai na ddaw na ddim ar ddiwedd y dydd ac mi fydd fy nghyfanswm
geiriau a gyfieithwyd wedi disgyn yn drychinebus!
Diolch eto am dy gymorth.
Eluned
2009/7/13 Huw Garan <[log in to unmask]>:
> Cawod addas ar gyfer cadeiriau olwyn?
>
> Ddim yn siwr am y ceiling hoist. Teclyn codi sydd yng nghronfa Cysgeir ond
> 'dyw 'teclyn codi yn y nenfwd' ddim yn swnio'n iawn rhywffordd ond dyna beth
> yw e. Gweler
> http://www.dolphinmidlands.co.uk/graphics/liftech_ceiling_hoist.jpg am lun o
> 'ceiling hoist' os yw hynny'n help.
>
> Hg
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eluned Mai
> Sent: 12 July 2009 15:50
> To: [log in to unmask]
> Subject: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
>
> Oes gan rywun derm cryno am unrhyw un o'r uchod, os gwelwch yn dda?
> Maent yn ymddangos ar dudalen o symbolau fel eglurhad i'r symbolau hynny
> (mewn llyfryn lleoliadau gwyliau i bobl ag anableddau).
>
> Llawer o ddiolch
>
> Eluned
>
|