Mwy na thebyg. Mae pob math o geriach eraill hefyd.
Tim
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Translation
Unit
Sent: 17 July 2009 11:50
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: ATB: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
A yw'r 'sling' yn rhan o'r 'teclyn codi'?
Hwyl,
Llyr Evans
Prif Gyfieithydd / Principal Translator
Uned Gyfieithu/Translation Unit
Parc Dewi Sant
Caerfyrddin/Carmarthen
Est./Ext. 6128
Llinell Uniongyrchol/Direct Line : 01267 246128
Rhif Ffacs / Fax Number : 01267 246155
E-bost/E-mail - [log in to unmask]
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Saunders, Tim
Anfonwyd/Sent: 17 July 2009 10:56
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ATB: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
Ydw. A dweud y gwir, rwy'n credu fod rhediad esmwyth term neu ymadrodd bron mor bwysig i'w llwyddiant ag y mae'u cywirdeb manwl. Y mae 'sling' ychydig bach yn rhy blwmp, rwy'n cytuno. Fel mae'n digwydd, gwelais 'teclyn codi' yn derm eithaf cyffredin yn y math yma o gyd-destun.
Yn iach,
Tim
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Eluned Mai
Sent: 17 July 2009 10:45
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
Iawn, Tim - wna i ddim poeni. Ond mae rhywbeth o'i le efo 'sling'.
Dydy o ddim yn ei roi ei hun i rythm yr iaith rywsut. Mae o'n dechrau
ac yn gorffen yn blwmp ac yn blaen a fedrwch chi wneud dim efo fo.
Wyt ti'n deall be sy gen i?
Hwyl a diolch
Eluned
2009/7/17 Saunders, Tim <[log in to unmask]>:
> Does dim rhaid poeni am ddiflaniad y llafariad ragddodiadol - neu'n rhy hwyr, efallai. Mae hi'n ddigon gwantan ers rhyw 1,500 o flynyddoedd.
>
> Tim
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Eluned Mai
> Sent: 16 July 2009 21:18
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: ATB: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
>
>
> Ia? Dwi ddim yn gwybod y ffeithiau a deud y gwir. Dim ond edrych yn
> Seisnig mae 'sling' i mi. Wyt ti'n gwybod pam roedd 'na 'y' o flaen
> llawer o eiriau Cymraeg yn y 19eg ganrif? Tybed oedd hi'n rhyw
> nodwedd o'r iaith rydan ni'n prysur golli heb yn wybod. Neu efallai
> bod ateb digon syml.
>
> Sut acen sydd ar yr 'i'? Does 'na 'run yn GPC.
>
> Diolch, Geraint. Rhywbeth i feddwl amdano, beth bynnag.
>
> 2009/7/15 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
>> Dwi'n meddwl bod "sling" yn gymreiciach nag "ysling" - blas y 19eg ganrif
>> sydd ar hwnnw!
>>
>> A byddai angen acen ar yr i...
>>
>>
>> ----- Original Message ----- From: "Eluned Mai" <[log in to unmask]>
>> To: <[log in to unmask]>
>> Sent: Wednesday, July 15, 2009 10:33 PM
>> Subject: Re: ATB: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
>>
>>
>> Ia, mae'r rheina'n ddigon taclus a digon byr, on'd ydyn - 'ysling
>> nenfwd' (mae o'n swnio dipyn bach yn fwy Cymreig efo'r 'y', er mai
>> benthyciad ydy o 'run fath) a 'cawod cadair olwyn' amdani.
>>
>> Diolch yn fawr iawn, Siân. A diolch i bawb eto.
>>
>> 2009/7/15 Siân Roberts <[log in to unmask]>:
>>>
>>> Beth am rywbeth fel "sling nenfwd" neu "hoist nenfwd" a "cawod cadair
>>> olwyn"
>>> ?
>>>
>>> On 15 Jul 2009, at 00:50, Eluned Mai wrote:
>>>
>>>> Basa, mi fasa - ond y ffaith ei fod o'n sownd yn y nenfwd sy'n creu'r
>>>> picil, achos mae 'na fwy nag un math o declyn codi. A dydy 'cadair
>>>> codi sy'n crogi o'r nenfwd' ddim yn swnio'n iawn ar gyfer llyfryn
>>>> lleoliadau gwyliau rhywsut - nac ychwaith 'sy 'nghlwm wrth y nenfwd' -
>>>> 'sy'n dirwyn i lawr o'r nenfwd'. Pam y mae'r Sais yn cael rhoi dau air
>>>> hefo'i gilydd mor dwt a ninna'n gorfod bod mor hirwyntog? Efallai
>>>> basa 'dirwynlath nenfwd' yn iawn ond fasa neb yn deall 'dirwynlath'.
>>>> 'Cawod cadair olwyn' - ga i neud hynna?
>>>>
>>>> Beth bynnag, llawer o ddiolch, Carolyn. Mae 'cadair codi' yn deud yn
>>>> union beth ydy o - oes rhaid iddo fo fod yn sownd yn y nenfwd, dwed?
>>>>
>>>> 2009/7/14 Carolyn <[log in to unmask]>:
>>>>>
>>>>> Fasai rhywbeth fel 'cadair codi' neu 'sling codi' yn gwneud y tro
>>>>> Eluned?
>>>>>
>>>>> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
>>>>> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>>>>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Eluned
>>>>> Mai
>>>>> Anfonwyd/Sent: 14 Gorffennaf 2009 09:30
>>>>> At/To: [log in to unmask]
>>>>> Pwnc/Subject: Re: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
>>>>>
>>>>> Llawer iawn o ddiolch, Huw. Roeddwn i'n chwilio am rywbeth damaid yn
>>>>> fwy cryno am y math yma o gawod gan fod lle yn brin, ond efallai mai
>>>>> gwneud lle rhywsut fydd raid.
>>>>>
>>>>> Diolch yn fawr iawn am y llun! Bydd yn her i roi meddwl ar waith.
>>>>> Efallai na ddaw na ddim ar ddiwedd y dydd ac mi fydd fy nghyfanswm
>>>>> geiriau a gyfieithwyd wedi disgyn yn drychinebus!
>>>>>
>>>>> Diolch eto am dy gymorth.
>>>>>
>>>>> Eluned
>>>>>
>>>>> 2009/7/13 Huw Garan <[log in to unmask]>:
>>>>>>
>>>>>> Cawod addas ar gyfer cadeiriau olwyn?
>>>>>>
>>>>>> Ddim yn siwr am y ceiling hoist. Teclyn codi sydd yng nghronfa Cysgeir
>>>>>
>>>>> ond
>>>>>>
>>>>>> 'dyw 'teclyn codi yn y nenfwd' ddim yn swnio'n iawn rhywffordd ond dyna
>>>>>
>>>>> beth
>>>>>>
>>>>>> yw e. Gweler
>>>>>> http://www.dolphinmidlands.co.uk/graphics/liftech_ceiling_hoist.jpg am
>>>>>> lun
>>>>>
>>>>> o
>>>>>>
>>>>>> 'ceiling hoist' os yw hynny'n help.
>>>>>>
>>>>>> Hg
>>>>>>
>>>>>> -----Original Message-----
>>>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>>>>>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eluned Mai
>>>>>> Sent: 12 July 2009 15:50
>>>>>> To: [log in to unmask]
>>>>>> Subject: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
>>>>>>
>>>>>> Oes gan rywun derm cryno am unrhyw un o'r uchod, os gwelwch yn dda?
>>>>>> Maent yn ymddangos ar dudalen o symbolau fel eglurhad i'r symbolau
>>>>>> hynny
>>>>>> (mewn llyfryn lleoliadau gwyliau i bobl ag anableddau).
>>>>>>
>>>>>> Llawer o ddiolch
>>>>>>
>>>>>> Eluned
>>>>>>
>>>>>
>>>
>>
>
|