UK = DG / DU ?
Ar un o’m traethodau y bu disgwyl i mi i’w cynhyrchu wrth fynd drwy’r brifysgol
ryw ddeugain mlynedd yn ôl, (ond na fedraf feddwl am ei ailgylchu drwy’r
fasged bapur hyd eto) mae gen i gofnod balch o lawysgrif un darlithydd tra
enwog a pharchus, sy’n parhau i belydru gyda phendantrwydd inc arholiadol o
goch, i fynnu nad cymwys defnyddio’r ymadrodd Teyrnas Gyfunol fel term
cyfystyr â Phrydain: “Nid Unedig pob Cyfuniad: dydyw teyrnas wedi ei
chyfuno o is-ddarnau anghymharus ddim o reidrwydd yn unfrydol unedig!”
Meddylied! Beth bynnag, pam ddim defnyddio ‘Prydain' ym mhob achlysur, a
rhoi diwedd ar yr hen gân acronymllyd yma?
Mae hyn yn cysylltu â'r pryder cysylltiedig ynghylch y defnydd o acronymau yn
y cyswllt hwn - yn enwedig pan y’i defnyddir mewn print gan academyddion o
wahanol fathau. Oherwydd tra bod academyddion ar y cyfan yn
DDARLLENWYR ac YSGRIFENWYR o fawr fri, dydyn nhw ddim o reidrwydd yn
LLEFARWYR cyhoeddus gwerth gwrando arnynt - gan nad yw pob un ohonyn
nhw wrth reddf ychwaith yn WRANDAWYR sy’n ymglywed yn sensitif â’r iaith
lafar (dyna fôn y drafferth, yn aml iawn)!
Yn fy mhrofiad i o gyfieithu siaradwyr ar-y-pryd sy’n mynnu defnyddio
acronymau - does neb yn peri mwy o drafferth i mi na chynghorwyr a
gwleidyddion (pobl nad ydyn nhw ond yn wirioneddol hapus o glywed eu llais
hwy eu hunain yn llefaru!), llenorion (h.y. ysgrifwyr / ‘pobl trwyn mewn
papur’), gweithwyr desg ac ‘academyddion’ o bob cylch o fywyd (h.y.
darllenwyr ac ysgrifenwyr yn y bôn). Yn fy marn i, yr hyn y mae’r cyfryw rai
yn brin ohono yw synwyrusrwydd ieithyddol i elfen lafar eu hamryw ysgrifau
printiedig.
Er enghraifft, tra byddai’n berffaith dderbyniol sgwennu yn y Saesneg rywbeth
fel: “I landed in the UK at 5.00pm, with a CCW officer”, yn fy marn bach i
fyddai hi ddim yn dderbyniol i mi sgwennu yn y Gymraeg: “Fe laniais i yn y DG
(neu’r DU ych-a-fi hyd yn oed) am 5.00pm, gyda swyddog o GCGC.” Pam?
Oherwydd, pe byddwn i i’w ddarllen - boed yn dawel yn fy mhen neu’n uchel ar
lafar - byddai’r Saesneg clywadwy yn llythrennol ddilyn y Saesneg ysgrifenedig
yn ddigon boddhaol: “I landed in the Ewe.Kay. at five Pee.Em., with a
Si.Si.Double-U. officer”. Gallwn ddygymod â hynny’n weddol rwydd, gan nad
oes angen i mi glywed yn fy mhen yr enwau llawn yn achos: yr (i) United
Kingom na’r (ii) post meridian na’r Countryside Council for Wales. Ond nid felly
yn yr iaith Gymraeg; gan mai’r hyn fyddai fy nghlust i’n mynnu ei glywed
fyddai: “Fe gyrhaeddais i yn y Deyrnas Gyfunol (neu’r Deyrnas Unedig - llai
derbyniol - hyd yn oed) am bump o’r gloch y prynhawn, gyda swyddog o
Gyngor Cefn Gwlad Cymru”. Sylwer fodd bynnag y byddai fy nghlust i’n
gwrthod clywed yr hyn y mae fy llygad i’n ei ganfod yn y print: sef “Fe
gyrhaeddais i yn y Dy.Gy. (neu’r Dy.U. bondigrybwyll) am bump Pi.Em., gyda
swyddog Cy.Cy.Gy.Cy.” H.y. yn y defnydd o acronymau Cymraeg mae
gwrthdaro merwinllyd ofnadwy yn digwydd rhwng yr hyn a wêl fy llygad i a’r
hyn y mae fy nghlust i’n dychmygu ei glywed rywle ym mherfedd fy ymennydd;
a hynny yn gyffredinol i raddau llawer mwy na’r hyn sy’n digwydd yng nghyd-
destun yr iaith Saesneg!
Fel rheol fras felly, dylid hepgor defnyddio acronymau mewn print, oni bai y
gellid darllen y cyfan o’r cynnwys yn esmwyth, fel pe ‘yn glywadwy’ (h.y. fel
pe byddai’n cael ei lefaru ar goedd) yn gwbl ddidramgwydd. At hynny, yn fy
ngwaith ‘cyffredinol’ beunyddiol i fel cyfieithydd, rhaid i mi y rhan fwyaf o’r
amser ragdybio na fydd y darllenydd yr un mor gyfarwydd â’r acronymau a’r
ysgrifennwr (boed yn y naill iaith neu’r llall, mewn gwirionedd); ac y bydd y
mwyafrif llethol o’r cyfryw acronymau felly yn sicr o dramgwyddo llygad A
CHLUST y darllenydd - yn gwbl ddiangen. Does dim esgus felly dros ddiogi
rhag ysgrifennu’r teitlau allan yn llawn (o leiaf ar achlysur eu hymddangosiad
cyntaf o fewn y ddogfen dan sylw). Os mynn, gall y darllenydd adael i’w
lygaid sgimio dros y teitl cyflawn (os yw eisoes yn gyfarwydd ag ef); heb i
hynny darfu ar lithrigrwydd llif yr wybodaeth oddi ar y dudalen, na pheri
unrhyw dramgwydd i ystyr cynnwys y darlleniad, drwyddo draw. Ond o leiaf
dylai’r enw (teitl / term) priodol fod yno yn ei gyfanrwydd, i bwy bynnag
fyddai’n falch o’i gael yno felly.
A hefyd - o safbwynt y llu o lawryddion nad oes ganddyn nhw unrhyw gorff o
gwbl i’w gwarchod rhag cael eu hecsbloetio’n feunyddiol gan rym gelyniaethus
y farchnad rydd sydd ohoni - rhaid ychwanegu y dylai’r cwsmer ganiatáu i’r
cyfieithydd druan gael ei dalu’n briodol yn ôl nifer y geiriau ychwanegol y
byddo angen iddo / iddi eu cynnwys yn y testun y cyfieithir iddo; heb rwgnach
na dadlau, ond fel amod cydnabyddedig o’r gorchwyl. Wedi’r cyfan, caiff
teipyddion eu talu’n ddi-gwestiwn yn ôl nifer y geiriau y bu iddynt orfod yn
llythrennol {yn gorfforol!} eu byseddu i mewn i’r prosesydd geiriau. Dadleuir
hyn wrth gwrs, ar sail fod un acronym pum llythyren dyweder (e.e. HEFCW yn
Saesneg) yn werth UN GAIR; ond sylwer fod angen hyd at ryw SAITH gair
weithiau yn y cyfieithiad - yn arbennig pan fo angen dyfynnu fersiwn cyflawn
yr acronym yn achos acronymau dieithr neu anghyfarwydd: ... HEFCW /
CCAUC (Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru) ... Fel y mae’n hysbys i
gyfieithwyr testun, mewn dogfen o ryw 10,000 o eiriau, nid anarferol yw hi y
gall hyn olygu bod y cyfieithiad Cymraeg (os yn raenus yn y modd y mae’n
adlewyrchu cynnwys y gwreiddiol) yn mynd i gynnwys hyd at 20% (a hyd yn
oed ar adegau gymaint â 30%) yn fwy o eiriau unigol na’r testun ffynonellol yn
y Saesneg.
Eurwyn Pierce Jones (Abermiwl)
|