Ia? Dwi ddim yn gwybod y ffeithiau a deud y gwir. Dim ond edrych yn
Seisnig mae 'sling' i mi. Wyt ti'n gwybod pam roedd 'na 'y' o flaen
llawer o eiriau Cymraeg yn y 19eg ganrif? Tybed oedd hi'n rhyw
nodwedd o'r iaith rydan ni'n prysur golli heb yn wybod. Neu efallai
bod ateb digon syml.
Sut acen sydd ar yr 'i'? Does 'na 'run yn GPC.
Diolch, Geraint. Rhywbeth i feddwl amdano, beth bynnag.
2009/7/15 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
> Dwi'n meddwl bod "sling" yn gymreiciach nag "ysling" - blas y 19eg ganrif
> sydd ar hwnnw!
>
> A byddai angen acen ar yr i...
>
>
> ----- Original Message ----- From: "Eluned Mai" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, July 15, 2009 10:33 PM
> Subject: Re: ATB: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
>
>
> Ia, mae'r rheina'n ddigon taclus a digon byr, on'd ydyn - 'ysling
> nenfwd' (mae o'n swnio dipyn bach yn fwy Cymreig efo'r 'y', er mai
> benthyciad ydy o 'run fath) a 'cawod cadair olwyn' amdani.
>
> Diolch yn fawr iawn, Siān. A diolch i bawb eto.
>
> 2009/7/15 Siān Roberts <[log in to unmask]>:
>>
>> Beth am rywbeth fel "sling nenfwd" neu "hoist nenfwd" a "cawod cadair
>> olwyn"
>> ?
>>
>> On 15 Jul 2009, at 00:50, Eluned Mai wrote:
>>
>>> Basa, mi fasa - ond y ffaith ei fod o'n sownd yn y nenfwd sy'n creu'r
>>> picil, achos mae 'na fwy nag un math o declyn codi. A dydy 'cadair
>>> codi sy'n crogi o'r nenfwd' ddim yn swnio'n iawn ar gyfer llyfryn
>>> lleoliadau gwyliau rhywsut - nac ychwaith 'sy 'nghlwm wrth y nenfwd' -
>>> 'sy'n dirwyn i lawr o'r nenfwd'. Pam y mae'r Sais yn cael rhoi dau air
>>> hefo'i gilydd mor dwt a ninna'n gorfod bod mor hirwyntog? Efallai
>>> basa 'dirwynlath nenfwd' yn iawn ond fasa neb yn deall 'dirwynlath'.
>>> 'Cawod cadair olwyn' - ga i neud hynna?
>>>
>>> Beth bynnag, llawer o ddiolch, Carolyn. Mae 'cadair codi' yn deud yn
>>> union beth ydy o - oes rhaid iddo fo fod yn sownd yn y nenfwd, dwed?
>>>
>>> 2009/7/14 Carolyn <[log in to unmask]>:
>>>>
>>>> Fasai rhywbeth fel 'cadair codi' neu 'sling codi' yn gwneud y tro
>>>> Eluned?
>>>>
>>>> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
>>>> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>>>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Eluned
>>>> Mai
>>>> Anfonwyd/Sent: 14 Gorffennaf 2009 09:30
>>>> At/To: [log in to unmask]
>>>> Pwnc/Subject: Re: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
>>>>
>>>> Llawer iawn o ddiolch, Huw. Roeddwn i'n chwilio am rywbeth damaid yn
>>>> fwy cryno am y math yma o gawod gan fod lle yn brin, ond efallai mai
>>>> gwneud lle rhywsut fydd raid.
>>>>
>>>> Diolch yn fawr iawn am y llun! Bydd yn her i roi meddwl ar waith.
>>>> Efallai na ddaw na ddim ar ddiwedd y dydd ac mi fydd fy nghyfanswm
>>>> geiriau a gyfieithwyd wedi disgyn yn drychinebus!
>>>>
>>>> Diolch eto am dy gymorth.
>>>>
>>>> Eluned
>>>>
>>>> 2009/7/13 Huw Garan <[log in to unmask]>:
>>>>>
>>>>> Cawod addas ar gyfer cadeiriau olwyn?
>>>>>
>>>>> Ddim yn siwr am y ceiling hoist. Teclyn codi sydd yng nghronfa Cysgeir
>>>>
>>>> ond
>>>>>
>>>>> 'dyw 'teclyn codi yn y nenfwd' ddim yn swnio'n iawn rhywffordd ond dyna
>>>>
>>>> beth
>>>>>
>>>>> yw e. Gweler
>>>>> http://www.dolphinmidlands.co.uk/graphics/liftech_ceiling_hoist.jpg am
>>>>> lun
>>>>
>>>> o
>>>>>
>>>>> 'ceiling hoist' os yw hynny'n help.
>>>>>
>>>>> Hg
>>>>>
>>>>> -----Original Message-----
>>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>>>>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eluned Mai
>>>>> Sent: 12 July 2009 15:50
>>>>> To: [log in to unmask]
>>>>> Subject: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
>>>>>
>>>>> Oes gan rywun derm cryno am unrhyw un o'r uchod, os gwelwch yn dda?
>>>>> Maent yn ymddangos ar dudalen o symbolau fel eglurhad i'r symbolau
>>>>> hynny
>>>>> (mewn llyfryn lleoliadau gwyliau i bobl ag anableddau).
>>>>>
>>>>> Llawer o ddiolch
>>>>>
>>>>> Eluned
>>>>>
>>>>
>>
>
|