Dwi'n meddwl bod "sling" yn gymreiciach nag "ysling" - blas y 19eg ganrif
sydd ar hwnnw!
A byddai angen acen ar yr i...
----- Original Message -----
From: "Eluned Mai" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, July 15, 2009 10:33 PM
Subject: Re: ATB: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
Ia, mae'r rheina'n ddigon taclus a digon byr, on'd ydyn - 'ysling
nenfwd' (mae o'n swnio dipyn bach yn fwy Cymreig efo'r 'y', er mai
benthyciad ydy o 'run fath) a 'cawod cadair olwyn' amdani.
Diolch yn fawr iawn, Siān. A diolch i bawb eto.
2009/7/15 Siān Roberts <[log in to unmask]>:
> Beth am rywbeth fel "sling nenfwd" neu "hoist nenfwd" a "cawod cadair
> olwyn"
> ?
>
> On 15 Jul 2009, at 00:50, Eluned Mai wrote:
>
>> Basa, mi fasa - ond y ffaith ei fod o'n sownd yn y nenfwd sy'n creu'r
>> picil, achos mae 'na fwy nag un math o declyn codi. A dydy 'cadair
>> codi sy'n crogi o'r nenfwd' ddim yn swnio'n iawn ar gyfer llyfryn
>> lleoliadau gwyliau rhywsut - nac ychwaith 'sy 'nghlwm wrth y nenfwd' -
>> 'sy'n dirwyn i lawr o'r nenfwd'. Pam y mae'r Sais yn cael rhoi dau air
>> hefo'i gilydd mor dwt a ninna'n gorfod bod mor hirwyntog? Efallai
>> basa 'dirwynlath nenfwd' yn iawn ond fasa neb yn deall 'dirwynlath'.
>> 'Cawod cadair olwyn' - ga i neud hynna?
>>
>> Beth bynnag, llawer o ddiolch, Carolyn. Mae 'cadair codi' yn deud yn
>> union beth ydy o - oes rhaid iddo fo fod yn sownd yn y nenfwd, dwed?
>>
>> 2009/7/14 Carolyn <[log in to unmask]>:
>>>
>>> Fasai rhywbeth fel 'cadair codi' neu 'sling codi' yn gwneud y tro
>>> Eluned?
>>>
>>> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
>>> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Eluned
>>> Mai
>>> Anfonwyd/Sent: 14 Gorffennaf 2009 09:30
>>> At/To: [log in to unmask]
>>> Pwnc/Subject: Re: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
>>>
>>> Llawer iawn o ddiolch, Huw. Roeddwn i'n chwilio am rywbeth damaid yn
>>> fwy cryno am y math yma o gawod gan fod lle yn brin, ond efallai mai
>>> gwneud lle rhywsut fydd raid.
>>>
>>> Diolch yn fawr iawn am y llun! Bydd yn her i roi meddwl ar waith.
>>> Efallai na ddaw na ddim ar ddiwedd y dydd ac mi fydd fy nghyfanswm
>>> geiriau a gyfieithwyd wedi disgyn yn drychinebus!
>>>
>>> Diolch eto am dy gymorth.
>>>
>>> Eluned
>>>
>>> 2009/7/13 Huw Garan <[log in to unmask]>:
>>>>
>>>> Cawod addas ar gyfer cadeiriau olwyn?
>>>>
>>>> Ddim yn siwr am y ceiling hoist. Teclyn codi sydd yng nghronfa Cysgeir
>>>
>>> ond
>>>>
>>>> 'dyw 'teclyn codi yn y nenfwd' ddim yn swnio'n iawn rhywffordd ond dyna
>>>
>>> beth
>>>>
>>>> yw e. Gweler
>>>> http://www.dolphinmidlands.co.uk/graphics/liftech_ceiling_hoist.jpg am
>>>> lun
>>>
>>> o
>>>>
>>>> 'ceiling hoist' os yw hynny'n help.
>>>>
>>>> Hg
>>>>
>>>> -----Original Message-----
>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>>>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eluned Mai
>>>> Sent: 12 July 2009 15:50
>>>> To: [log in to unmask]
>>>> Subject: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
>>>>
>>>> Oes gan rywun derm cryno am unrhyw un o'r uchod, os gwelwch yn dda?
>>>> Maent yn ymddangos ar dudalen o symbolau fel eglurhad i'r symbolau
>>>> hynny
>>>> (mewn llyfryn lleoliadau gwyliau i bobl ag anableddau).
>>>>
>>>> Llawer o ddiolch
>>>>
>>>> Eluned
>>>>
>>>
>
|