Y Deyrnas Gyfunol oedd y term oedd gennym yn Y Termiadur Ysgol
gwreiddiol (1998)am y rhesymau mae Gorwel yn eu nodi isod - sy'n cael eu
mynegi hefyd yn Geiriadur y Gyfraith, Robyn Lewis.
Fodd bynnag mae hwn yn un o'r ychydig dermau y bu'n rhaid i ni eu newid
ar gyfer Y Termiadur (2006) ar y sail mai cyfyng iawn oedd y defnydd
ohono i gymharu â Y Deyrnas Unedig, yn enwedig gan mai dyna oedd dewis
cyntaf y Cynulliad. O wneud arolwg o fyfyrwyr prifysgol oedd yn astudio
drwy gyfrwng y Gymraeg, roedd hi'n syndod gweld *nad oedd yr un ohonynt*
yn gyfarwydd â'r term Y Deyrnas Gyfunol. Roedd hon yn ddadl bellach dros
newid y term,
Delyth
Gorwel Roberts wrote:
> UK alors!
>
> O ran UK a'r DU ac ati beth mae pawb yn ei ffafrio?
>
> Y Deyrnas Unedig ynteu'r Deyrnas Gyfunol? Y DU ynteu'r DG?
>
> Credaf mai'r Deyrnas Gyfunol sydd orau oherwydd mai teyrnas sy'n gyfuniad
> yw'r Deyrnas Gyfunol - 'united' yn yr ystyr ei bod wedi ei rhoi ynghyd yn
> hytrach nag 'united' oherwydd ei bod yn 'unedig'.
>
> Byddai'n dda petai rhyw fath o gytundeb ynglyn a hyn yn hytrach na bod dau
> derm ar waith
>
> Gas gen i'r DU neu'r DG acronym wrth reswm. Sylwaf nad oes cysondeb yn Term
> Cymru - weithiau defnyddir yr acronym ac weithiau ysgfifennir yr enw'r
> llawn.
>
> Oni fyddai'n bosibl penderfynu defnyddio un term dealladwy (a gaf i gynnig
> 'Y Deyrnas Gyfunol'?) a darbwyllo pawb nad yw y DU na'r DG yn glir nac yn
> ddealladwy i neb ond cyfieithwyr?
>
> Os oes rhaid i ni fyw yn y Deyrnas Gyfunol beth am i ni ei galw wrth enw
> synhwyrol?
>
> Gorwel
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the Bangor University Finance
Office. www.bangor.ac.uk
|