Ia, athro trwyddedig/athrawes drwyddedig sydd yn fy ngho innau hefyd
am qualified teacher. Efallai bod 'certificated teacher' yn golygu
rhywun sydd wedi cael tystysgrif neu radd i ddysgu ond nad ydy o'n
'qualified teacher' nes iddo lwyddo yn ei flwyddyn brawf. Mi fasa
'certificated teacher' wedyn yn rhywbeth fel 'athro tystysgrifedig',
er na chlywais i erioed y term hwnnw'n cael ei ddefnyddio. Ydy'r
cyd-destun yn rhoi gwell syniad am yr ystyr?
Pob hwyl arni
Eluned
2009/5/28 Alwyn Evans <[log in to unmask]>:
> 'Athro trwyddedig' ydi 'qualified teacher' - chlywais i erioed derm
> gwahanol ar gyfer 'certificated teacher' ac yn wir dydw'i ddim yn llawn
> ddeall y gwahaniaeth rhyngddynt beth bynnag!
>
> Alwyn
|