Diolch Geraint. O'n i'n mynd i ddweud mod i'n hoffi cynnig Wyn - ond
erbyn meddwl - ydi "rhag-adroddiad dichonolrwydd" yn awgrymu rhyw
fath o "adroddiad dichonolrwydd cyntaf" - yn hytrach nag "adroddiad
cyn yr adroddiad dichonolrwydd"? Beth bynnag sydd yn hwnnw!
Siān
Pan oeddwn i'n gweithio ar bapurau'r Herald slawer dydd, roedd
golygydd y papurau Saesneg bob amser yn dweud wrth y gohebwyr am
beidio ā defnyddio "feasibility report" - bod "report" ar ei ben ei
hunan yn ddigon.
Siān
On 24 Mar 2009, at 11:54, Geraint Lovgreen wrote:
> "adroddiad cychwynnol" Sian yn llawer mwy dealladwy.
>
> ----- Original Message ----- From: "Wyn Hobson"
> <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, March 24, 2009 11:12 AM
> Subject: pre-feasibility report
>
>
> Dw i'n amau mai adroddiad sy'n rhagflaenu adroddiad dichonolrwydd
> yw hwn --
> felly beth am 'rhag-adroddiad dichonolrwydd'?
>
> Wyn
|