Cenedl y gair 'gwedd' sy'n berthnasol yma, sef ail elfen y gair
cyfansawdd - felly mae'n air benywaidd, megis rhinwedd. Fel rheol, ail
elfen gair cyfansawdd cy'n pennu canedl y gair, megis rhanbarth (g)
gorsaf-feistr (g) - eithriad yw 'pleidlais' (b).
O ran y pwynt arall, mae lleiafrif o eiriau -edd yn fenywaidd:
buchedd, cynddaredd, cynghanedd, cynhadledd, delwedd, tuedd, trosedd -
all rhywun feddwl am fwy ohonynt? Fodd bynnag, wrth fathu geiriau newydd
yn diweddu ag -edd, sy'n ymddangos fel ôl-ddodiad cynhyrchiol iawn ar
gyfer enwau haniaethol, ymddengys mai enwau gwrywaidd fydden nhw, megis
'gigabeitedd' .... Unrhyw sylwadau?
Helen
Carolyn Iorwerth wrote:
> Dw innau'n gorfod gwneud ymdrech i gofio hyn hefyd Siân - mae'n swnio'n
> rhyfedd iawn - ac mae trosedd yn un arall! Mae pob geiriadur fwy neu lai'n
> rhoi e.g. ond anaml y clywch chi neb yn dweud 'y trosedd'
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts
> Anfonwyd/Sent: 04 Mawrth 2009 14:32
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: tirwedd
>
> Rwy'n deall mai benywaidd yw "tirwedd" yn y rhan fwyaf o eiriaduron ac rwy'n
> deall y
> rheswm pam ond mae "y dirwedd" yn swnio'n rhyfedd i mi ac rwy wedi sylwi mai
> "y
> tirwedd" y mae'r rhan fwyaf o bell ffordd o siaradwyr Cymraeg graenus yn ei
> ddefnyddio
> wrth siarad ar y cyfryngau.
>
> "y tirwedd" sydd i'w weld hefyd yn "Daearyddiaeth yn y Cwricwlwm
> Cenedlaethol
> yng Nghymru" ac yn y daflen hon
> (http://www.gwaithmaes.org/content/uploads/Rhifynnau/R29/Tirwedd_Thirlun.pdf
> ) gan
> Gymdeithas Gwaith Maes sy'n "hyrwyddo addysg yr amgylchedd yng Nghymru".
>
> Cyn dyddiau TermCymru, roeddwn i'n arfer gallu cyfiawnhau defnyddio "y
> tirwedd" am
> mai dyna oedd Cyngor Gwynedd yn ei ddefnyddio - yn ôl y llyfryn bach
> defnyddiol o
> dermau cynllunio a baratowyd gan Wil Petherbridge.
>
> Oes rhywun arall yn ffafrio "y tirwedd"? Plis!
>
> (Yn ddiddorol hefyd, mae'r daflen yn dweud bod y gair "tirwedd" yn
> cyfeirio'n benodol at
> uchder a siâp y tir a'r gair "tirlun" yn cynnwys nid yn unig ffurf y tir ond
> hefyd y defnydd
> a wneir ohono.)
>
--
Helen Smith (Cyfieithydd/Translator)
Canolfan Bedwyr
[log in to unmask]
Ffôn/Tel: 01248 383253 (allanol/external)
est/ext 3253 (mewnol/internal)
>^..^< >^..^< >^..^< >^..^< >^..^< >^..^< >^..^<
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the Bangor University Finance
Office. www.bangor.ac.uk
|