Pwynt pwysig sy'n codi o hyn yw fod y gwahaniaethau hyn yn bwysig, ac nad oes wiw i ni'u cymylu drwy orddefnydd o un o'r geiriau. Os try pob problem yn her, pob nod yn weledigaeth, a phob prosiect yn fenter arloesol, yna fe fyddwn ni yn hollol ddiymaderth pan fydd gofyn am trafod her, gweledigaeth, neu arloesi go iawn.
Tim
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Huw Garan
Sent: 18 March 2009 19:22
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Argymhellion yr LGA
Rhaid i fi anghytuno fan hyn. I fi, mae her yn wahanol iawn i broblem. Y
broblem yn yr enghraifft yma yw'r sbwriel: hynny yw, mae'n bla ac mae'n
rhaid gwneud rhywbeth yn ei gylch. Mae mynd i'r afael â'r broblem honno yn
her: hynny yw, bydd yn anodd ond dylid gallu ei goresgyn trwy ddyfalbarhau.
Mae dringo'r Wyddfa'n her (h.y. yn anodd), ond byddai torri'ch coes a
chwympo ar y ffordd yn peri tipyn o broblem (h.y. yn wael).
Gwahaniaeth go gynnil, mae'n debyg, ond un sy'n werth ei chadw.
Hg
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Alun, Steffan
Sent: 18 March 2009 12:46
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Argymhellion yr LGA
Deall hynny, ond does bosib fod "challenge" yn ddigon dealladwy y tu allan i
sefydliadau?
Eto, rwy'n teimlo mai atgasedd greddfol at ddefnydd corfforaethau o eiriau
gwan sy'n gyfrifol am gynnwys geiriau o'r fath, ac yn fy marn i, mae hynny'n
mynd yn rhy bell. Mae "tackling litter is a challenge" yr un mor ddilys â
"tackling litter is a problem", a dydw i ddim yn gweld unrhyw reswm i orfodi
awduron y darnau gwreiddiol i ddefnyddio'r ail gan honni bod y frawddeg
gyntaf yn gamarweiniol.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 18 March 2009 12:33
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Argymhellion yr LGA
> Ie, mae nhw wedi colli'r pwynt braidd fod rhai geiriau yn cael eu
> bathu gyda ystyr penodol sy'n cael eu deall o fewn y sefydliad.
Dwi'n meddwl mai dyna ydi eu pwynt nhw - sef bod y geiriau'n cael eu deall o
fewn y sefydliad, ond yn da i ddim i gyfathrebu efo'r cyhoedd.
******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended
solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed.
If you have received this e-mail in error, please notify the administrator
on the following address: [log in to unmask]
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol
ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os
ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r
gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask]
*******************************************************************
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 8.0.237 / Virus Database: 270.11.17/2007 - Release Date: 03/17/09
10:18:00
|