Un sylw pellach ar hyn ar gyfer yr archif.
Wrth gwrs 'geiriau sy'n codi'n aml' sydd orau (am ei fod yn fwy
naturiol) lle gellir defnyddio'r ymadrodd yn ei ffurf hir. Ond os oes
rhaid defnyddio term cryno, mae 'geiriau amledd uchel' yn anghywir -
'geiriau amlder uchel' ddylai fod. Mae 'amledd' yn cyfateb i 'frequency'
yn yr ystyr o 'rate of occurance of vibration' yn Saesneg, - nid dyna
sydd dan sylw yma, ond yn hytrach 'frequency' yn yr ystyr o 'commonness
of occurence'.
Delyth
Alison wrote:
> Diolch i bawb am y sylwadau.
>
> Yn yr achos hwn, dim ond unwaith mae'n codi. Dwi wedi gweld sawl enghraifft o "geiriau amledd uchel" ar y rhyngrwyd - gan gynnwys ar wefan Estyn. Rwy'n cytuno bod "geiriau sy'n codi'n aml" yn llawer mwy naturiol, ond dwi byth yn siŵr beth i'w wneud gydag ymadroddion fel "high frequency" sy'n swnio yr un mor od yn y Saesneg. Rwy'n teimlo bod angen bathu term (er ei fod yr un mor od i'r glust) yn y Gymraeg hefyd weithiau.
>
> Diolch eto am y cymorth.
>
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
> Sent: 28 January 2009 16:50
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: high frequency words
>
> Ar gyfer yr enghraifft honno, awgryma Bruce : y geiriau mynych sy'n codi
> fynychaf.
> Ann
> ----- Original Message -----
> From: "Geraint Lovgreen" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, January 28, 2009 4:44 PM
> Subject: Re: high frequency words
>
>
>> Y drwg efo defnyddio ymadrodd berfol i gyfieithu term ydi, weithiau mae
>> angen term, e.e. yn Saesneg gellid cael "...those high frequency words
>> which
>> occur most frequently...". Byddai cyfieithu hyn fel "...y geiriau sy'n
>> codi'n aml sy'n codi amlaf..." yn amlwg yn glogyrnaidd.
>>
>> Byddai "y geiriau amledd uchel sy'n codi amlaf" yn llai clogyrnaidd, er yn
>> amlwg yn jargonllyd.
>>
>> Geraint
>>
>> ----- Original Message -----
>> From: "SIAN ROBERTS" <[log in to unmask]>
>> To: <[log in to unmask]>
>> Sent: Wednesday, January 28, 2009 4:38 PM
>> Subject: Re: high frequency words
>>
>>
>> Hynna'n swnio fel buddugoliaeth i synnwyr cyffredin!
>>
>>
>> --- On Wed, 28/1/09, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote:
>>
>>> From: Ann Corkett <[log in to unmask]>
>>> Subject: Re: high frequency words
>>> To: [log in to unmask]
>>> Date: Wednesday, 28 January, 2009, 4:26 PM
>>> Mae'n ddrwg gen i os yw' hyn yn rhyw hwyr.
>>> Anfonais y neges isod at Elen Ogwen neithiwr, a newydd gael
>>> ei ateb (isod eto).
>>> Ann
>>>
>>> Annwyl Elen,
>>> Tybed a allech chi helpu cyfieithydd arall sydd wedi gofyn,
>>> ar grwp trafod termau, am y term ar gyfer "high
>>> frequency words"?
>>> Mae rhai wedi awgrymu "geiriau (syml) sy'n
>>> codi'n aml", ac eraill, "geiriau amledd
>>> uchel".
>>> Yn rhywle, mae gen i eirfa Cynllun Dysgu Darllen Project y
>>> Cyngor Ysgolion .... Mae'r Ganllaw gen i, a gwelaf am y
>>> tro cyntaf mai chi oedd Cyfarwyddwr y Cynllun. 'Doedd
>>> gen i mo'r amser i wneud mwy na chwilio'n frysiog ac
>>> yn aflwyddiannus am ryw gyfeiriad at yr eirfa. Ydych
>>> chi'n digwydd cofio pa derm a ddefnyddiwyd i gyfeirio at
>>> "high frequency words"?
>>>
>>> Annwyl Ann,
>>> Mae'r term 'geiriau sy'n codi'n aml' yn
>>> swnio'n Gymraeg naturiol a byw i mi, sy'n
>>> cyfleu'r ystyr i'r dim - a dyna fuaswn yn ei
>>> gymeradwyo heddiw! - yn hytrach na'r llall a gynigiwyd
>>> yn eich nodyn.
>>> O ran y term a ddefnyddiwyd yn project y saith degau - nid
>>> wyf yn cofio'n iawn beth a ddywedwyd pryd hynny ac mae
>>> fy nghopiau yn yr atig!! Beth bynnag a fu, gwell gennyf
>>> 'geiriau sy'n codi'n aml'.
>>> ----- Original Message -----
>>> From: Alwyn Evans
>>> To: [log in to unmask]
>>> Sent: Tuesday, January 27, 2009 11:54 PM
>>> Subject: Re: high frequency words
>>>
>>>
>>> Rydw'i wedi defnyddio 'geiriau amledd uchel'
>>> o'r blaen - mae'n cyfleu'r ystyr ( sef geiriau
>>> megis a, yr, mae sy'n digwydd yn aml)!
>>>
>>> Alwyn
>>>
>>>
>>> ------------------------------------------------------------------------------
>>>
>>>
>>>
>>> No virus found in this incoming message.
>>> Checked by AVG - http://www.avg.com
>>> Version: 8.0.176 / Virus Database: 270.10.14/1920 -
>>> Release Date: 27/01/2009 18:15
>
>
> --------------------------------------------------------------------------------
>
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com
> Version: 8.0.176 / Virus Database: 270.10.15/1921 - Release Date: 28/01/2009
> 06:37
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the Bangor University Finance
Office. www.bangor.ac.uk
|