Nid hwy yw'r unig gorff swyddogol o bell fordd sy'n amlygu anghysondeb o ran terminoleg. Weithiau, eithriadau yw'r defnydd o'r term 'arall' (yn yr achos yma, yr un heb rym cyfreithiol). Serch hynny, mae'n werth cadw golwg ar y fath gyd-destunau, rhag i ryw batrwm ddod i'r amlwg, gydag un term yn cael ei gysylltu â chyd-destun penodol, neu â rhyw gorff arbennig. Dyna'r math o achos lle byddai corpws deche yn gaffaeliad amhrisiadwy.
Yn iach,
Tim
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Dafydd Tomos
Sent: 11 February 2009 18:39
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Deddf Terfysgaeth 2000
Mae'n ddiddorol i nodi fod MI5 yn defnyddio y ddau derm
o fewn yr un wefan:
Brawychiaeth
http://www.mi5.gov.uk/output/mythau.html
Terfysgaeth
http://www.mi5.gov.uk/output/terfysgaeth.html
Mae'n anffodus fod gwallau bach ar y wefan e.e.
Cyselltu
'Bacia at Briga'
|