Efallai mai pobl ledneis iawn yw pobl eich ardal chi, Wyn.
Cofiaf pan oeddwn i'n rhannu "digs" yn y brifysgol a thair merch arall, a
Mam wedi dod i aros ddiwedd tymor. Rhyw hogyn o fyfyriwr yn galw i'n gweld
ni, a Mam yn neidio am y bras a oedd yn sychu ar hors o flaen y tan ac
eistedd arnynt cyn iddo gael amser i dod i mewn i'r ystafell.
Gan fynd yn ol at y pwnc gwreiddiol, mae Bruce yn canmol "Dawn Ymadrodd" gan
Mary Wiliam, ac yn dyfynu "trwsio'r pen a thwyllo'r bola", ond yn anffodus
mi wnaeth o gau'r llyfr cyn imi fedru edrych ar y gweddill, a 'does gen i
ddim amser i'w chwilio. Gwelaf fod ynddo "posi ben seld" a "siew ben
sielff" ar gyfer merch sy'n ymbincio gormod ond yn dda i ddim.
Ann
----- Original Message -----
From: "Wyn Hobson" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, January 06, 2009 2:24 PM
Subject: Window-dressing on an emoty shop
> Y dywediad yn y de pan oeddwn i'n ifanc oedd 'Fur Coat and no knickers'!
Fersiwn (mwy gweddaidd) Sir Ddinbych ieuenctid fy mam oedd 'Fur coat and no
breakfast'.
Tybed a oes amrywiadau sirol eraill?
Blwyddyn newydd dda i bawb.
Wyn
--------------------------------------------------------------------------------
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.176 / Virus Database: 270.10.3/1878 - Release Date: 06/01/2009
07:56
|