Mae'n siwr y byddai cyfeiriad at 'y geiriau sy'n codi'n aml' wedi bod eisoes
ac felly y gellid dweud ' y geiriau sy'n codi amlaf'
Carolyn
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint
Lovgreen
Anfonwyd/Sent: 28 Ionawr 2009 16:45
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: high frequency words
Y drwg efo defnyddio ymadrodd berfol i gyfieithu term ydi, weithiau mae
angen term, e.e. yn Saesneg gellid cael "...those high frequency words which
occur most frequently...". Byddai cyfieithu hyn fel "...y geiriau sy'n
codi'n aml sy'n codi amlaf..." yn amlwg yn glogyrnaidd.
Byddai "y geiriau amledd uchel sy'n codi amlaf" yn llai clogyrnaidd, er yn
amlwg yn jargonllyd.
Geraint
----- Original Message -----
From: "SIAN ROBERTS" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, January 28, 2009 4:38 PM
Subject: Re: high frequency words
Hynna'n swnio fel buddugoliaeth i synnwyr cyffredin!
--- On Wed, 28/1/09, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote:
> From: Ann Corkett <[log in to unmask]>
> Subject: Re: high frequency words
> To: [log in to unmask]
> Date: Wednesday, 28 January, 2009, 4:26 PM
> Mae'n ddrwg gen i os yw' hyn yn rhyw hwyr.
> Anfonais y neges isod at Elen Ogwen neithiwr, a newydd gael
> ei ateb (isod eto).
> Ann
>
> Annwyl Elen,
> Tybed a allech chi helpu cyfieithydd arall sydd wedi gofyn,
> ar grwp trafod termau, am y term ar gyfer "high
> frequency words"?
> Mae rhai wedi awgrymu "geiriau (syml) sy'n
> codi'n aml", ac eraill, "geiriau amledd
> uchel".
> Yn rhywle, mae gen i eirfa Cynllun Dysgu Darllen Project y
> Cyngor Ysgolion .... Mae'r Ganllaw gen i, a gwelaf am y
> tro cyntaf mai chi oedd Cyfarwyddwr y Cynllun. 'Doedd
> gen i mo'r amser i wneud mwy na chwilio'n frysiog ac
> yn aflwyddiannus am ryw gyfeiriad at yr eirfa. Ydych
> chi'n digwydd cofio pa derm a ddefnyddiwyd i gyfeirio at
> "high frequency words"?
>
> Annwyl Ann,
> Mae'r term 'geiriau sy'n codi'n aml' yn
> swnio'n Gymraeg naturiol a byw i mi, sy'n
> cyfleu'r ystyr i'r dim - a dyna fuaswn yn ei
> gymeradwyo heddiw! - yn hytrach na'r llall a gynigiwyd
> yn eich nodyn.
> O ran y term a ddefnyddiwyd yn project y saith degau - nid
> wyf yn cofio'n iawn beth a ddywedwyd pryd hynny ac mae
> fy nghopiau yn yr atig!! Beth bynnag a fu, gwell gennyf
> 'geiriau sy'n codi'n aml'.
> ----- Original Message -----
> From: Alwyn Evans
> To: [log in to unmask]
> Sent: Tuesday, January 27, 2009 11:54 PM
> Subject: Re: high frequency words
>
>
> Rydw'i wedi defnyddio 'geiriau amledd uchel'
> o'r blaen - mae'n cyfleu'r ystyr ( sef geiriau
> megis a, yr, mae sy'n digwydd yn aml)!
>
> Alwyn
>
>
>
----------------------------------------------------------------------------
--
>
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com
> Version: 8.0.176 / Virus Database: 270.10.14/1920 -
> Release Date: 27/01/2009 18:15
|