Na, all Carnguwch ddim bod yn un gair. Dau air yw Carn Guwch neu mae'r
ynganiad yn wirion bost
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 20 January 2009 18:57
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Tit Mountain
Dyna ffodus i gael y fath gysylltiadau yn gymorth imi.
'Rwyf newydd anfon yr awgrym isod at yr awdur (ond mi newidiaf "Carnguwch"
yn un gair eto):
"The distinctive breast-shaped hillside of Mynydd Carn Guwch is sometimes,
it is said, aptly referred to as Bron y Ferch (the Girl's Breast)."
Casglaf yr holl negeseuon hyn at ei gilydd a'u hanfon at Hywel Wyn Owen. Os
caf ymateb ffafriol ganddo, efallai gallwn ni dynnu'r "it is said" o'r
proflenni.
Ann
----- Original Message -----
From: "Inc Cyfieithu Translations" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, January 20, 2009 6:28 PM
Subject: Re: Tit Mountain
Mi rwyt ti'n iawn, Annes. Mae Geraint (Twm) Trefor yn honni mai o'r
gair 'gafl' y daw yr Eifl, sy'n cyd-fynd am wn i efo Bron y Ferch.
Mae fy nheulu wedi ffermio Carnguwch ers cenedlaethau a chlywais i yr un
ohonyn nhw yn galw'r mynydd yn ddim ond Mynydd Carnguwch (un gair, nid
dau). Dyna fyddai fy mam yn ei alw hefyd. Cafodd hi ei magu ar fferm
gyfagos.
Ond roedd dylanwad Methodistiaeth Galfinaidd yn drwm ar Llithfaen gan
mlynedd a mwy yn ol a synnwn i ddim na fyddai'r colofnau'r achos yn
gwaredu at unrhyw enw efo cysylltiadau rhywiol . Byddai galw mynydd
yn Bron y Ferch yn anathema.
Gyda llaw, mae mynwent Eglwys Carnguwch yn llawn erbyn hyn. Fy modryb,
a fu farw fis Mehefin y llynedd ac yn un o'r teulu yr adeiladwyd yr
Eglwys ar eu tir, fydd y dwytha i'w chladdu yno os na chaiff y fynwent
ei helaethu.
Wil
annes gruffydd wrote:
> O sbio ar y llun wedyn, ella'i fod yn dibynnu o ba ochor mae rhywun yn
> edrach arno fo, mae gan y mynydd dwi'n son amdano fo deth. Dan ni'n
> mynd i ddyfroedd dyrys rwan - eith hi fath a'r gyfres o negeseuon
> cunnilingus os na watsiwn ni - a gawn ni weld pwy atebith y neges yma!!!
>
> Annes
>
> 2009/1/20 annes gruffydd <[log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>>
>
> Sori Ann fedra i ddim bod yn siwr - dim ond, fel deudais i, na'r
> un dwi'n son amdano ydi'r un ar y chwith cyn croesi'r Eifl. Ella
> bod na fynyddoedd eraill ym Mhen Llyn sy'n fronna merched, dwn i ddim.
>
> Annes
>
> 2009/1/20 Ann Corkett <[log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>>
>
> Diolch yn fawr, Annes - mae fy NGHOF i'n mynd mor bell yn ol
> ag edrych i lawr ar fy mrest ac yn meddwl tybed pryd y ddo^n nhw!
>
> 'Dw i'n meddwl bod 'na ddigon o dystiolaeth erbyn hyn i newid
> y frawddeg i rywbeth fel:
> "The distinctive breast-shaped hillside of Mynydd Carn Guwch
> is sometimes aptly referred to as /Bron y Ferch/."
>
> Dyma lun o'r mynydd dan sylw:
>
>
> ----- Original Message -----
> *From:* annes gruffydd <mailto:[log in to unmask]>
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> *Sent:* Tuesday, January 20, 2009 5:09 PM
> *Subject:* Re: Tit Mountain
>
> Un o Langwnad oedd mam - nid yn union wrth droed y mynydd
> hwnnw, ond yn ddigon agos. Fedra i ddim gofyn iddi ai enw
> safonol oedd hwnnw gan ei bod, fel y gwyddost, 'wedi mynd
> i le gwell'. Dwi newydd ffonio Kit, gweddw Gruffudd Parry
> ac mi ddeudodd hi heb flewyn ar dafod, yn ddi-amau, mai
> Bron y Ferch ydi enw'r mynydd.
>
> Annes
>
> ON Dwi'n meddwl ei fod yn enw tan gamp achos mae'n union
> fel bron merch ifanc - o na baem yn cofio sut olwg oedd ar
> fron merch ifanc - henaint ni ddaw ei hunan!
>
> 2009/1/20 Ann Corkett <[log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>>
>
> Diolch i chi'ch dau - Gwelaf Un cyfeiriad at "Scowling
> Mountain" ar y We, ond mae hynny'n amlwg yn
> lled-gyfieithiad.
>
> Af ar ol y Ganolfan eto. Rhaid im ddod at wraidd y
> "Ma^m Wlad" hon, gan y gallai fod angen ail-deitlo'r
> print.
>
> Pam yn y byd mae'r tiwtoriaid, fel 'dw i'n amau, yn
> parhau'r enw Saesneg yn lle defnyddio'r cyfle i son am
> ystyron y gair Cymraeg "bron"?
>
> Ann
>
> ----- Original Message -----
> *From:* Gorwel Roberts
> <mailto:[log in to unmask]>
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> *Sent:* Tuesday, January 20, 2009 3:01 PM
> *Subject:* Re: Tit Mountain
>
> "Carn Guwch" yn ôl y Gazetteer
>
>
>
>
------------------------------------------------------------------------
>
> *From:* Discussion of Welsh language technical
> terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>] *On
> Behalf Of *Rhian Jones
> *Sent:* 20 January 2009 14:56
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> *Subject:* Re: Tit Mountain
>
>
>
> Helo Ann
>
> Mynydd Carnguwch ydi enw'r mynydd. Dw i wedi holi
> ffrind i mi sydd wedi'i magu ar odre'r mynydd a
> does yna ddim enw arall arno fo medde hi. Mae gen
> i fab sy'n galw'r lle yn Tit Mountain pan mae o
> efo'i ffrindiau, ond 14 oed ydyn nhw!!!
>
> Rhian
>
>
------------------------------------------------------------------------
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com
> <http://www.avg.com/>
> Version: 8.0.176 / Virus Database: 270.10.10/1903
> - Release Date: 19/01/2009 20:52
>
>
>
------------------------------------------------------------------------
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com <http://www.avg.com/>
> Version: 8.0.176 / Virus Database: 270.10.10/1903 -
> Release Date: 19/01/2009 20:52
>
>
>
> ------------------------------------------------------------------------
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com
> Version: 8.0.176 / Virus Database: 270.10.10/1904 - Release Date:
> 20/01/2009 07:49
>
>
----------------------------------------------------------------------------
----
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.176 / Virus Database: 270.10.10/1903 - Release Date: 19/01/2009
20:52
|