Llawer iawn o ddiolch, Sylvia. Rhywbeth tebyg oedd gen i am y cyntaf.
Rhywbeth digon rhyfedd oedd gen i am yr ail, ond mae hwn yn dangos yr
ystyr yn glir ac yn syml.
Llawer iawn o ddiolch
Eluned
On Fri, Dec 5, 2008 at 5:15 PM, Jones,Sylvia Prys <[log in to unmask]> wrote:
> Eluned Mai wrote:
>>
>> Oes unrhyw un all fy helpu gyda'r uchod a hefyd un term arall? Maent
>> yn ymddangos mewn dogfen sy'n ymchwilio i brofedigaeth rhieni sydd
>> wedi colli plentyn ag anabledd deallusol.
>>
>> Dyma enghraifft o'r uchod yn ei gyd-destun:
>>
>> "Fraley and Bonanno propose that a relationship between attachment and
>> anxiety may be responsible for the risks posed by avoidance coping:
>> fearful-avoidant attachment patterns combined with high anxiety are
>> associated with elevated symptoms of grief and distress."
>>
>>
>
> Mae'r Geiriadur Termau Seicoleg yn rhoi 'ymlyniad osgoi' am 'avoidance
> attachment'.
>
> Felly patrymau ymlyniad ofni-osgoi?
>
> >>>A'r ail derm/au: loss-orientated and restoration orientated stressors
>
> Does dim byd am y termau hyn yn y Geiriadur ond byddwn i'n tybio:
>
> Straen sy'n gysylltiedig â'r golled a straen sy'n gysylltiedig â'r broses
> adfer.
>
> (Mae'r geiriadur yn cynnig straenachoswr am stressor ond bydd straen ar ei
> ben ei hun neu achos straen yn symlach efallai).
>
>
> --
> Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
>
> Uned Gyfieithu/Translation Unit
> Canolfan Bedwyr
> Prifysgol Cymru, Bangor/University of Wales, Bangor
>
> --
> Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
> gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
> gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
> neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
> unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
> rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
> gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
> hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
> Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
> bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
> 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
> nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
> rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
> Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
>
> This email and any attachments may contain confidential material and
> is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
> received this email in error, please notify the sender immediately
> and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
> must not use, retain or disclose any information contained in this
> email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
> not necessarily represent those of the Bangor University.
> Bangor University does not guarantee that this email or
> any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
> expressly stated in the body of the text of the email, this email is
> not intended to form a binding contract - a list of authorised
> signatories is available from the Bangor University Finance
> Office. www.bangor.ac.uk
>
|