Dw i wedi bod yn darllen un o erthyglau Iorwerth C. Peate, Mynydd
Epynt, a ysgrifenwyd yn 1941 ac a gyhoeddwyd yn ei lyfr 'Ym Mhob Pen
(1948), yn yr erthygl hon ceir ".... a'm cymdogion yn swatio yn 'y tai
gerddi yn yml tre Gaerdydd' rhag bomwyr medelwyr y corwynt."
Rwy'n cymryd mai 'Nissen huts' yw'r 'tai gerddi' hyn - a taw 'tai
gerddi' oedd yr enw 'answyddogol' ymhlith y Cymry Cymraeg (neu o leiaf
y disgwyliai Iorwerth Peate y byddai'n ddealladwy i Gymry Cymraeg
wedi'r rhyfel)
Mae nifer o dermau diddorol eraill, er enghraifft 'ymogelwraig' ar
gyfer 'efaciwi' (ceir ymogelwr yn GPC yn dyddio o 1803) ond nid oes
cofnod o 'Ymogelwraig' - ond byddaf yn creu cofnodion ar wahan yn ein
cofnodion ni ar gyfer y termau hyn ac unrhyw dermau diddorol eraill y
dof i ar eu draws.
Muiris
|