Mae gan Croeso Cymru gynllun o'r enw Sense of Place. Yr enw Cymraeg yw Naws am Le.
"Beth yw Naws am Le?
Mae naws am le yn cwmpasu popeth sy’n unigryw am wlad, y nodweddion arbennig a
chofiadwy hynny sy’n plesio trigolion lleol ac ymwelwyr. O’r de i’r gogledd, o’r dwyrain i’r
gorllewin, mae gan Gymru ddigonedd ohono – ac mae’n rhywbeth a allai ychwanegu gwerth
gwirioneddol i’ch busnes."
Mae gen i frawddeg sy'n cyfeirio at y cynllun:
"...to help tourism providers in the ** area to help strengthen the region's Sense of Place in
order to improve your business ..."
A oes unrhyw ffordd y gallwn i ddefnyddio "Naws am Le" yn y frawddeg yma? Dyw e ddim
fel pe bai'n gwneud synnwyr.
(Nid gan Croeso Cymru mae'r darn wedi dod gyda llaw)
Diolch
Siân
|