Rwyf i wedi gweld yr un ddogfen â Garmon. Mae'n nodi "di-glwten" a "rhydd o glwten". Mae'r diffyg
treiglo o leiaf yn gyson.
Gwen
>>> Garmon Davies <[log in to unmask]> 18/11/2008 15:11:55 >>>
Efallai fod y ddogfen hon yn ateb y cwestiwn:
www. <http://www.food.gov.uk/multimedia/pdfs/labelforum0104cymraeg.pdf>
food.gov.uk/multimedia/pdfs/labelforum0104cymraeg.pdf
Mae enghraifft o “di-lactos/di-glwten” yma.
_____
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran CATRIN ALUN
Anfonwyd/Sent: 18 November 2008 14:51
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Gluten free
Syniad da!
_____
From: Rhian Huws <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Tuesday, 18 November, 2008 2:49:44 PM
Subject: Re: Gluten free
Falle y cysylltaf ag Uned Iaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd i weld a oes
ganddyn nhw farn ar y mater. Rhoddaf wybod i'r cylch os caf ateb!
Cofion
Rhian
_____
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of CATRIN ALUN
Sent: 18 November 2008 14:48
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Gluten free
Dwi ddim yn ffafrio di-lwten fel y cyfryw - jyst dweud ei fod yn cael ei
ddefnyddio ar lafar fan hyn!
Catrin
_____
From: Melanie Davies <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Tuesday, 18 November, 2008 2:43:10 PM
Subject: Re: Gluten free
Rwy'n cytuno. Yn bersonol, mae'n well gen i 'heb glwten'.
Melanie
----- Original Message -----
From: Rhian <mailto:[log in to unmask]> Huws
To: [log in to unmask]
Sent: Tuesday, November 18, 2008 2:38 PM
Subject: Re: Gluten free
Derbyn y pwynt yn iawn ynghylch y treiglad, ond rhaid i mi gyfadde na faswn
i'n gwybod beth fyddai ystyr 'di-lwten' gan nad ydio o wedi ennill ei blwyf
o bosibl. Tybed ydi glwten yn ffitio i'r un categori â grwp/gêm/golff ('mynd
am gêm o golff' nid 'mynd am êm o olff' )?
Dw i'n ofni mod i'n agor tun o lyngyrod rwan...
Rhian
_____
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of CATRIN ALUN
Sent: 18 November 2008 14:31
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Gluten free
Mae gen i ffrind sy'n gorfod bwyta'r bwydydd yma, a di-lwten dwi wedi ei
chlywed hi'n ddweud - credu bod di- yn achosi TM. Mae un enghraifft o
di-lwten wrth gwglo - hybu cig cymru - a 26 enghraifft o di-glwten - ond mae
di-glwten yn swnio'n chwithig i mi (bosib am fy mod yn gyfarwydd â chlywed
di-lwten!)
Catrin
_____
From: Rhian Huws <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Tuesday, 18 November, 2008 2:09:45 PM
Subject: Gluten free
Helo bawb
Tybed a oes rhywun wedi dod ar draws hwn yn ddiweddar?
Gluten Free Foods yw'r cyd-destun:
Di-glwten?
Heb glwten?
Sy'n rhydd o glwten?
Nad yw/ydynt yn cynnwys glwten?
Diolch yn fawr am bob cymorth.
Rhian
Rhian Huws
Arbenigwr Iaith Gymraeg/Welsh Language Specialist
Canolfan Iechyd Cymru/Wales Centre for Health
14 Ffordd yr Eglwys Gadeiriol/14 Cathedral Road
Caerdydd/Cardiff
CF11 9LJ
Llinell Uniongyrchol/Direct Line: 029 2082 7622
Rhif Canolog/Switchboard: 029 2022 7744
E-bost/E-mail: [log in to unmask]
Ystyriwch yr amgylchedd cyn argraffu'r e-bost hwn - diolch / Please
consider the environment before printing this email - thank you
|