'dadansoddi'r ailadrodd syml ar ddilyniant', felly? Mewn maes or'fath, wrth
gwrs, gallai hefyd olygu 'dadansoddi dilyniannau' ...
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Heledd Davies [hid]" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, October 29, 2008 1:15 PM
Subject: Re: Simple Sequence Repeat
Berwyn,
Mae'n gysyniad ar ei ben ei hun mewn brawddeg sy'n rhestru dyletswyddau
Technegydd Ymchwil, (rwy'n cyfieithu disgrifiad swydd). Yr 'SSR
analysis' sydd dan sylw:
"The post will involve plant genomic DNA extraction, PCR, cloning, SSR
analysis; and plant growth measurements. The appointment will be for 6
months to provide maternity cover."
Diolch yn fawr iawn i chi am eich cymorth,
Heledd
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Berwyn Jones
Sent: 29 October 2008 12:59
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Simple Sequence Repeat
Mewn anwybodaeth lwyr o'r maes, tybed ai'r cyfieithiad mwyaf hwylus
fyddai
'ailadrodd syml ar ddilyniant'. Ai ymadrodd ar ei ben ei hun sydd yma,
neu a
oes berf yn y frawddeg? Os oes berf:
mae/ceir/gwelir ailadrodd syml ar ddilyniant/ar y dilyniant
Dewis arall fyddai:
ceir/gwelir (bod) y dilyniant yn ei ailadrodd ei hun yn syml
Rwy'n cymryd mai'r ailadrodd sy'n syml, nid y dilyniant. Os y dilyniant,
'ailadrodd dilyniant syml':
mae/ceir/gwelir ailadrodd ar ddilyniant syml
neu
ceir/gwelir (bod) y dilyniant syml yn ei ailadrodd ei hun
Gwell holi arbenigwr yn gyntaf, efallai, i gael gwybod i beth y mae'r
ansoddair 'syml' yn perthyn.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Heledd Davies [hid]" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, October 29, 2008 9:58 AM
Subject: Simple Sequence Repeat
Y cyd-destun yw DNA a ffisioleg planhigion.
Diolch ymlaen llaw am bob cymorth.
Heledd
------------------------------------------------------------------------
--------
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.175 / Virus Database: 270.8.4/1753 - Release Date:
28/10/2008
21:20
--------------------------------------------------------------------------------
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.175 / Virus Database: 270.8.4/1753 - Release Date: 28/10/2008
21:20
|