Ond wrth ddweud mai 'dirwasgiad' sy'n cael ei ddefnyddio'n gyffredinol ar
gyfer 'recession', yr hyn oeddwn i'n ei olygu oedd ei fod yn cael ei
ddefnyddio nid mewn sgyrsiau bob-dydd, ond mewn ffynonellau 'swyddogol' fel
bwletinau newyddion y BBC. Dyma hefyd sydd yn y Termiadur a Geiriadur Termau
Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol.
Yden ni'n mynd i droi rownd yn sydyn a dweud "anghofiwch hynna, nid
dirwasgiad oedden ni'n feddwl" ?
Mae'r Termiadur yn rhoi "dirwasgiad" am depression hefyd, sy'n cadarnhau
pwynt David. Ond gan mai'r defnydd arall sydd fwyaf cyffredin o bell ffordd
(oherwydd mai'r digwyddiad arall sydd fwyaf cyffredin) os oes raid i un
cyfieithiad ildio i'r llall, mi faswn i'n dweud mai cyfieithiad "depression"
ddylai ildio.
Ond pam lai dweud "dirwasgiad mawr" am depression felly? Dyna ydio yn y bôn,
ac os derbyniwn ni "dirwasgiad mawr" fel term am depression does na ddim
problem.
(heblaw y byddai raid i ni sôn am y "Great Depression" fel y "Dirwasgiad
Mawr Mawr" ;-)
Geraint
----- Original Message -----
From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, October 23, 2008 8:30 AM
Subject: Re: recession/depression
> Mae Geraint yn gywir wrth gwrs mai 'dirwasgiad' sy'n cael ei ddefnyddio'n
> gyffredinol ar gyfer 'recession'.
>
> Ond efallai mai'r rheswm penna am hynny yw nad ydyn ni, wrth siarad yn
> gyffredinol, yn gallu gwahaniaethu yn yr un modd ag arbenigwyr.
>
> Does dim llawer o drafod arbenigol ar bynciau fel economeg yn Gymraeg, ac
> felly dyw'r cyfle i dermau arbenigol ennill eu plwyf ddim yn codi.
> Oherwydd
> hynny, dim ond y termau Saesneg neu ryw dermau Cymraeg digon cyffredinol
> sy'n gyfarwydd inni.
>
> Mewn testun arbenigol, dyw'r termau cyffredinol ddim fel arfer yn mynd i
> fod
> yn ddigon da, ac mae'n rhaid inni fod yn fodlon defnyddio termau manylach,
> er mwyn bod yn deg ag awduron arbenigol.
>
> Os daliwn ni ati i ddefnyddio 'dirwasgiad' ar gyfer 'recession' mewn
> testunau sy'n ceisio bod yn fanwl-gywir, ond mynnu mai'r 'Great
> Depression'
> yw ystyr y 'Dirwasgiad Mawr', ydyn ni ddim yn stopio pobl rhag cael y
> cyfle
> i ddeall a thrafod y pwnc i'r un lefel o fanylder ag sy'n bosibl mewn
> ieithoedd eraill?
>
>
>
>
>
>
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran carolyn
> Anfonwyd/Sent: 22 Hydref 2008 19:59
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: ATB: recession/depression
>
> Mae hynny'n gwneud synnwyr ond dw i'n meddwl bod pwynt Geraint yn eitha
> pwysig - sef bod 'dirwasgiad' yn cael ei ddefnyddio'n gyffredinol erbyn
> hyn
> ar gyfer 'recession' a hynny'n bennaf am nad yw 'depression' yn digwydd yn
> aml, ac eithrio i gyfeirio at y 'Great Depression'.
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Gareth A.
> Bevan
> Anfonwyd/Sent: 22 October 2008 18:19
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: recession/depression
>
> Mae Termau Gwleidyddiaeth 1976 a Termau Economeg 1972 yn gwhaniaethu rhwng
> depression =dirwasgiad
> a
> recession = enciliad
>
> 'Rwy'n meddwl imi gylywed
> cywasgiad ?= recession
> ar Radio Cymru fore Llun gan ryw arbenigwr, os nad yw `contraction'
> yn rhywbeth gwahanol eto.
>
> Gareth
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com
> Version: 8.0.173 / Virus Database: 270.8.2/1738 - Release Date: 21/10/2008
> 14:10
>
|