Yn Outlook Express? Teipia 0175, ac yna gwasgu Alt+X - mae hyn yn rhoi "ŵ" (cyn belled â bod y neges yn "Plain Text" dan "Format"). 0177 ac Alt+X i gael "ŷ", a 174 a 0176 i gael priflythrennau. Mae gwasgu Alt+X eto'n troi'r llythrennau nôl yn rhifau, sy'n ffordd gyflym o ddysgu pa rifau sydd eu hangen ar bob llythyren.
Steffan
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 03 October 2008 15:03
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Alt + A yn anfon e-bost
Rhyfedd - Alt+S ydi send i fod (os nad Alt+A ydi Anfon).
Ond dwi'm yn meddwl bod gosodiadau yn Word yn trosglwyddo i Outlook Express. O leia, dwi wastad yn gorfod gwneud Alt+131 i wneud â mewn neges ebost. A dwi ddim yn gallu rhoi to bach ar y ac w mewn ebost.
Geraint
----- Original Message -----
From: Carolyn Iorwerth
To: [log in to unmask]
Sent: Friday, October 03, 2008 2:27 PM
Subject: Alt + A yn anfon e-bost
Dw i'n gwybod mai cylch termau yw hwn ond mae'n bnawn Gwener ac os oes rhywun yn gwybod yr ateb i'r broblem fach yma byddwn i'n ddiolchgar iawn.
Dw i wedi gosod fy system i wneud a efo to bach drwy bwyso Alt + A a dyna dw i wedi'i wneud erioed felly dw i'n ei wneud yn otomatig. Ond, ers imi gael bysellfwrdd newydd, mae gwneud a efo to bach fel hyn mewn neges ebost yn anfon y neges - a finnau ar ganol ei sgwennu. Help!
Carolyn
******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address: [log in to unmask]
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask] *******************************************************************
|