Unrhyw syniadau am y ffordd orau o gyfieithu 'witch's familiar' yn Gymraeg?
Hynny yw ysbryd drwg ar ffurf creadur fel cath neu lyffant a oedd, yn ôl y
gred, yn 'accomplice' i wrach yn ei harferion drwg Mae Geiriadur yr Academi yn
rhoi 'dyfyn-ysbryd', 'ysbryd dewiniaeth' a 'chyfaill' ar gyfer gwahanol gyd-
destunau sy'n gorgyffwrdd â'i gilydd ychydig ond, i mi, nid yw'r rhain yn
llwyddo i gyfleu naws y Saesneg.
Byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw gymorth
|