> "(heblaw y byddai raid i ni sôn am y "Great Depression" fel y
> "Dirwasgiad Mawr Mawr" ;-)"
Neu y Dirwasgiad Masif fel mae plant Trefor yn ddweud!
On 23 Oct 2008, at 11:41, Geraint Lovgreen wrote:
> Ond wrth ddweud mai 'dirwasgiad' sy'n cael ei ddefnyddio'n
> gyffredinol ar gyfer 'recession', yr hyn oeddwn i'n ei olygu oedd
> ei fod yn cael ei ddefnyddio nid mewn sgyrsiau bob-dydd, ond mewn
> ffynonellau 'swyddogol' fel bwletinau newyddion y BBC. Dyma hefyd
> sydd yn y Termiadur a Geiriadur Termau Cyllid y Cynulliad
> Cenedlaethol.
>
> Yden ni'n mynd i droi rownd yn sydyn a dweud "anghofiwch hynna, nid
> dirwasgiad oedden ni'n feddwl" ?
>
> Mae'r Termiadur yn rhoi "dirwasgiad" am depression hefyd, sy'n
> cadarnhau pwynt David. Ond gan mai'r defnydd arall sydd fwyaf
> cyffredin o bell ffordd (oherwydd mai'r digwyddiad arall sydd fwyaf
> cyffredin) os oes raid i un cyfieithiad ildio i'r llall, mi faswn
> i'n dweud mai cyfieithiad "depression" ddylai ildio.
>
> Ond pam lai dweud "dirwasgiad mawr" am depression felly? Dyna ydio
> yn y bôn, ac os derbyniwn ni "dirwasgiad mawr" fel term am
> depression does na ddim problem.
>
> (heblaw y byddai raid i ni sôn am y "Great Depression" fel y
> "Dirwasgiad Mawr Mawr" ;-)
>
> Geraint
>
> ----- Original Message ----- From: "David Bullock"
> <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, October 23, 2008 8:30 AM
> Subject: Re: recession/depression
>
>
>> Mae Geraint yn gywir wrth gwrs mai 'dirwasgiad' sy'n cael ei
>> ddefnyddio'n
>> gyffredinol ar gyfer 'recession'.
>>
>> Ond efallai mai'r rheswm penna am hynny yw nad ydyn ni, wrth
>> siarad yn
>> gyffredinol, yn gallu gwahaniaethu yn yr un modd ag arbenigwyr.
>>
>> Does dim llawer o drafod arbenigol ar bynciau fel economeg yn
>> Gymraeg, ac
>> felly dyw'r cyfle i dermau arbenigol ennill eu plwyf ddim yn codi.
>> Oherwydd
>> hynny, dim ond y termau Saesneg neu ryw dermau Cymraeg digon
>> cyffredinol
>> sy'n gyfarwydd inni.
>>
>> Mewn testun arbenigol, dyw'r termau cyffredinol ddim fel arfer yn
>> mynd i fod
>> yn ddigon da, ac mae'n rhaid inni fod yn fodlon defnyddio termau
>> manylach,
>> er mwyn bod yn deg ag awduron arbenigol.
>>
>> Os daliwn ni ati i ddefnyddio 'dirwasgiad' ar gyfer 'recession' mewn
>> testunau sy'n ceisio bod yn fanwl-gywir, ond mynnu mai'r 'Great
>> Depression'
>> yw ystyr y 'Dirwasgiad Mawr', ydyn ni ddim yn stopio pobl rhag
>> cael y cyfle
>> i ddeall a thrafod y pwnc i'r un lefel o fanylder ag sy'n bosibl mewn
>> ieithoedd eraill?
>>
>>
>>
>>
>>
>>
>>
>> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
>> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology
>> and
>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran
>> carolyn
>> Anfonwyd/Sent: 22 Hydref 2008 19:59
>> At/To: [log in to unmask]
>> Pwnc/Subject: ATB: recession/depression
>>
>> Mae hynny'n gwneud synnwyr ond dw i'n meddwl bod pwynt Geraint yn
>> eitha
>> pwysig - sef bod 'dirwasgiad' yn cael ei ddefnyddio'n gyffredinol
>> erbyn hyn
>> ar gyfer 'recession' a hynny'n bennaf am nad yw 'depression' yn
>> digwydd yn
>> aml, ac eithrio i gyfeirio at y 'Great Depression'.
>>
>> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
>> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology
>> and
>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran
>> Gareth A.
>> Bevan
>> Anfonwyd/Sent: 22 October 2008 18:19
>> At/To: [log in to unmask]
>> Pwnc/Subject: Re: recession/depression
>>
>> Mae Termau Gwleidyddiaeth 1976 a Termau Economeg 1972 yn
>> gwhaniaethu rhwng
>> depression =dirwasgiad
>> a
>> recession = enciliad
>>
>> 'Rwy'n meddwl imi gylywed
>> cywasgiad ?= recession
>> ar Radio Cymru fore Llun gan ryw arbenigwr, os nad yw `contraction'
>> yn rhywbeth gwahanol eto.
>>
>> Gareth
>> No virus found in this incoming message.
>> Checked by AVG - http://www.avg.com
>> Version: 8.0.173 / Virus Database: 270.8.2/1738 - Release Date:
>> 21/10/2008
>> 14:10
|