Diolch i bawb, dwi am fynd efo 'miniogi'.
----- Original Message -----
From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, October 10, 2008 1:33 PM
Subject: Re: sharpen
> On Oct 10, 2008, Geraint Lovgreen wrote:
>
>> Dwi wedi bod yn dweud "gwneud y llun yn fwy eglur" hyd yma, ond wedi
>> cyrraedd brawddeg lle byddai'n llawer gwell cael un gair.
>>
>> Tybed a fyddai "miniogi'r llun" yn dderbyniol?
>
> Ie dwi'n meddwl mai dyna'r un mwya dealladwy. Yn dechnegol mae miniogi
> yn golygu edrych ar ffiniau rhwng darnau golau/tywyll a gwneud y ffin
> yn fwy amlwg drwy gynyddu'r cyferbyniad rhwng y ddau liw.
>
> Fe allai 'eglurhau' fod yn ddisgrifiad cywir ond yn dechnegol dyw'r
> dechneg ddim yn cynyddu'r wybodaeth yn y llun ond ei addasu i wneud y
> ffiniau i fod yn 'llymach' neu fwy miniog.
>
|