On Oct 10, 2008, Geraint Lovgreen wrote:
> Dwi wedi bod yn dweud "gwneud y llun yn fwy eglur" hyd yma, ond wedi cyrraedd brawddeg lle byddai'n llawer gwell cael un gair.
>
> Tybed a fyddai "miniogi'r llun" yn dderbyniol?
Ie dwi'n meddwl mai dyna'r un mwya dealladwy. Yn dechnegol mae miniogi
yn golygu edrych ar ffiniau rhwng darnau golau/tywyll a gwneud y ffin
yn fwy amlwg drwy gynyddu'r cyferbyniad rhwng y ddau liw.
Fe allai 'eglurhau' fod yn ddisgrifiad cywir ond yn dechnegol dyw'r
dechneg ddim yn cynyddu'r wybodaeth yn y llun ond ei addasu i wneud y
ffiniau i fod yn 'llymach' neu fwy miniog.
|