Chwarae offeryn fyswn i, er i athrawes yn yr ysgol ddweud mai 'canu' oedd yn
iawn. Ond wedyn, weithiau bydd athrawon ysgol gynradd yn cael chwilen yn eu
pennau am rywbeth - mae na bobl ffordd hyn sy'n ynganu'r gair "byth" efo y
hir (fel "syth") am fod rhyw athro/athrawes wedi pwyso arnyn nhw "peidiwch
b^yth â dweud byth".
Geraint
An tUalghargach - esgob, dydi'r Wyddeleg yn iaith gymhleth!!!
----- Original Message -----
From: "Muiris Mag Ualghairg" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, October 10, 2008 12:57 AM
Subject: Re: play an instrument
Dw i ddim yn mynd i ddadlau o blaid 'canu gitar' neu yn ei erbyn -
rwy'n cofio'r drafodaeth flaenorol ar y pwnc ac yn derbyn bod
'chwarae' yn digwydd yn y Gymraeg ers cymaint o amser nad oes modd
dadlau yn ei erbyn bellach - ond tybed a fydd Ffion (merch ffrind i
Huw a finnau) yn chwarae'r delyn ar ei chwrs ym Mangor ynteu'n canu'r
delyn?
Ond wedi dweud hynny dyma, o leiaf un, enghraifft o ganu'r gitar
"Fe gafodd Danny ei eni mewn fflat cyngor yng Nhaerdydd ar ôl parti ar
hyd y nos gyda'r Ballet Rambert. Roedd ei berfformiad gyhoeddus cyntaf
yng nghlwb werin Cardiff Royal Infirmary yn 1970, yn canu gitar gyda'i
rieni. I'r anoracs ymysg y darlledwyr, mae fe'n canu y cymysgedd
arferol o offerynnau tant, gyda ffrets ac hebddynt, ac yn defnyddio'r
dull chwyldroadol 'Bowyer's' ar allweddellau a ffidil. Mae Danny yn
perfformio mewn amryw grwpiau eraill yn cynnwys Kilbride (gyda'i
frodyr Gerard a Bernard), Yr Hwntws a Juice."
http://www.carreglafar.co.uk/features/musicians/DannyCym.htm
Ond, mae'n ddigon posibl mai cyfieithiad yw'r dyfyniad uchod ac
efallai nad oes modd dibynnu arno fel enghraifft o Gymraeg naturiol.
Muiris,
(sy'n gwrando ar Rhian yn canu emynau allan o 'Caneuon Ffydd', a chyda
llaw An tUalghargach yw'r ffurf gywir os yw rhywun eisiau cyfeirio
ataf gan ddefnyddio'r cyfenw!)
2008/10/9 Huw Garan <[log in to unmask]>:
> 'Canu piano' ddysgais i wrth dyfu lan, ond alla i ddim meddwl am rwyun yn
> canu gitar drydan neu ddrymie nac yn chwarae piano neu ffidil. Falle taw
> fi
> sy'n rhyfedd - paid ateb, Mag Ualghairg.
>
> Hg
>
> 2008/10/9 Sian Roberts <[log in to unmask]>
>>
>> Mae tuedd i feddwl mai "canu offeryn" - yn enwedig y piano a'r delyn -
>> sy'n gywir yn y
>> Gymraeg er mai "chwarae" y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei ddweud yn
>> naturiol. A oes sail
>> dros hyn?
>> Yn ôl GPC, mae'r ddau ymadrodd yn digwydd ym Meibl 1588, ac yn GyrA o dan
>> "play (an
>> instrument) ceir "chwarae, seinio, occ. canu".
>> Ai dim ond meddwl mai "canu" sy'n iawn am ei fod yn wahanol i'r Saesneg y
>> mae pobl?
>>
>> Diolch
>> Siân
>
>
|