Y peth od ydi, canu corn y car fyddwn i, ond chwarae pob offeryn chwyth (a phob offeryn arall hefyd).
Sent using BlackBerry® from Orange
-----Original Message-----
From: Eluned Mai <[log in to unmask]>
Date: Fri, 10 Oct 2008 17:00:57
To: <[log in to unmask]>
Subject: Re: play an instrument
Mi faswn i'n canu pob offeryn - piano, telyn, ffliwt, clarinet a hyn
yn oed y drwm - taswn i ond yn gallu! Am fy mod wedi dysgu mai hynny
sy'n iawn, am wn i, ac mae'n gwneud synnwyr hefyd. Dwi yn dweud
'chwarae piano' weithiau ond 'canu' sy'n teimlo'n iawn - gan mai
'canu' dwi'n arfer ei ddefnyddio, hwnnw sy'n teimlo'n naturiol. A
dwi'n siwr ein bod i gyd yn 'canu corn' - dwi'n medru gwneud hynny,
h.y. pan fydd yr un ar fy nghar bach i yn gweithio!
Pob hwyl
Eluned
On Fri, Oct 10, 2008 at 2:12 PM, Osian Rhys <[log in to unmask]> wrote:
> Ond canu'r delyn onidêê? Dw i'n meddwl mai chware popeth arall fyswn i, ond
> canu'r delyn -- i fi mae "chwarae'r delyn" yn swnio'n od braidd...
>
>
>> Ie, Geraint, dyna'n union roeddwn i'n feddwl.
>> Mae bron pawb dw i wedi'i holi'n dweud "chwarae dwi'n ddweud ond canu sy'n
>> iawn". Pwy sy'n dweud mai "canu sy'n iawn" dw i ishe gwbod - yn enwedig os
>> ydi chwarae'n cael sêl bendith yr Esgob William Morgan a Bruce Griffiths!
>> Dw i ddim yn dadlau nad ydi canu'n iawn, gyda llaw.
>>
>> Diolch bawb!
>>
>> Siân
>> On 10 Oct 2008, at 09:29, Geraint Lovgreen wrote:
>>
>>> Chwarae offeryn fyswn i, er i athrawes yn yr ysgol ddweud mai 'canu' oedd
>>> yn iawn. Ond wedyn, weithiau bydd athrawon ysgol gynradd yn cael chwilen yn
>>> eu pennau am rywbeth - mae na bobl ffordd hyn sy'n ynganu'r gair "byth" efo
>>> y hir (fel "syth") am fod rhyw athro/athrawes wedi pwyso arnyn nhw "peidiwch
>>> b^yth â dweud byth".
>>>
>>> Geraint
>>>
>>> An tUalghargach - esgob, dydi'r Wyddeleg yn iaith gymhleth!!!
>>>
>>> ----- Original Message ----- From: "Muiris Mag Ualghairg"
>>> <[log in to unmask]>
>>> To: <[log in to unmask]>
>>> Sent: Friday, October 10, 2008 12:57 AM
>>> Subject: Re: play an instrument
>>>
>>>
>>> Dw i ddim yn mynd i ddadlau o blaid 'canu gitar' neu yn ei erbyn -
>>> rwy'n cofio'r drafodaeth flaenorol ar y pwnc ac yn derbyn bod
>>> 'chwarae' yn digwydd yn y Gymraeg ers cymaint o amser nad oes modd
>>> dadlau yn ei erbyn bellach - ond tybed a fydd Ffion (merch ffrind i
>>> Huw a finnau) yn chwarae'r delyn ar ei chwrs ym Mangor ynteu'n canu'r
>>> delyn?
>>>
>>> Ond wedi dweud hynny dyma, o leiaf un, enghraifft o ganu'r gitar
>>>
>>> "Fe gafodd Danny ei eni mewn fflat cyngor yng Nhaerdydd ar ôl parti ar
>>> hyd y nos gyda'r Ballet Rambert. Roedd ei berfformiad gyhoeddus cyntaf
>>> yng nghlwb werin Cardiff Royal Infirmary yn 1970, yn canu gitar gyda'i
>>> rieni. I'r anoracs ymysg y darlledwyr, mae fe'n canu y cymysgedd
>>> arferol o offerynnau tant, gyda ffrets ac hebddynt, ac yn defnyddio'r
>>> dull chwyldroadol 'Bowyer's' ar allweddellau a ffidil. Mae Danny yn
>>> perfformio mewn amryw grwpiau eraill yn cynnwys Kilbride (gyda'i
>>> frodyr Gerard a Bernard), Yr Hwntws a Juice."
>>> http://www.carreglafar.co.uk/features/musicians/DannyCym.htm
>>>
>>> Ond, mae'n ddigon posibl mai cyfieithiad yw'r dyfyniad uchod ac
>>> efallai nad oes modd dibynnu arno fel enghraifft o Gymraeg naturiol.
>>>
>>> Muiris,
>>> (sy'n gwrando ar Rhian yn canu emynau allan o 'Caneuon Ffydd', a chyda
>>> llaw An tUalghargach yw'r ffurf gywir os yw rhywun eisiau cyfeirio
>>> ataf gan ddefnyddio'r cyfenw!)
>>>
>>>
>>> 2008/10/9 Huw Garan <[log in to unmask]>:
>>>>
>>>> 'Canu piano' ddysgais i wrth dyfu lan, ond alla i ddim meddwl am rwyun
>>>> yn
>>>> canu gitar drydan neu ddrymie nac yn chwarae piano neu ffidil. Falle
>>>> taw fi
>>>> sy'n rhyfedd - paid ateb, Mag Ualghairg.
>>>>
>>>> Hg
>>>>
>>>> 2008/10/9 Sian Roberts <[log in to unmask]>
>>>>>
>>>>> Mae tuedd i feddwl mai "canu offeryn" - yn enwedig y piano a'r delyn -
>>>>> sy'n gywir yn y
>>>>> Gymraeg er mai "chwarae" y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei ddweud yn
>>>>> naturiol. A oes sail
>>>>> dros hyn?
>>>>> Yn ôl GPC, mae'r ddau ymadrodd yn digwydd ym Meibl 1588, ac yn GyrA o
>>>>> dan
>>>>> "play (an
>>>>> instrument) ceir "chwarae, seinio, occ. canu".
>>>>> Ai dim ond meddwl mai "canu" sy'n iawn am ei fod yn wahanol i'r Saesneg
>>>>> y
>>>>> mae pobl?
>>>>>
>>>>> Diolch
>>>>> Siân
>>>>
>>>>
>
>
|