i blesio Annes sy'n hoffi plu .....
'Erbyn iddo fod yn saith oed roedd Mozart wedi cyfansoddi darn o waith
oedd yn bluen yn ei gap...
Jane Jones Owen
Cyfieithydd y Sir / Corporate Translator
01824 712524
[log in to unmask]
[log in to unmask]
annes gruffydd
<annagruffydd@GMA
IL.COM> To
Sent by: [log in to unmask]
Discussion of cc
Welsh language
technical Subject
terminology and Re: breakthrough
vocabulary
<WELSH-TERMAU-CYM
[log in to unmask]
UK>
15/09/2008 11:29
Please respond to
Discussion of
Welsh language
technical
terminology and
vocabulary
<WELSH-TERMAU-CYM
[log in to unmask]
UK>
Yr hen gingroen! Wedyn dan ni'n colli'r joc plwy/plu allai ella roi mbach o
hwyl i gyngherddwyr craff
Annes
2008/9/15 Ann Corkett <[log in to unmask]>
Diolch, Annes. Ond rhag i chwynnyn arall ledu, dymuna Bruce imi dynnu
sylw at y ffaith mai "magu plu" y mae adar!
Ann
----- Original Message -----
From: annes gruffydd
To: [log in to unmask]
Sent: Monday, September 15, 2008 10:02 AM
Subject: Re: breakthrough
Dew, go dda Ann - tro nesa bydd yna 'fully-fledged' i'w gyfieithu dwi'n
mynd i ddefnyddio hwnna. 'Erbyn ei 7 oed roedd Mozart yn gyfansoddwr oedd
wedi ennill ei blu.' Mi ro i wbod i chdi pan fydd mewn rhaglen cyngerdd i
chdi gael mynd yno i'w weld!
Annes
2008/9/15 Ann Corkett <[log in to unmask]>
fully fledged, eh!
Ann
----- Original Message -----
From: annes gruffydd
To: [log in to unmask]
Sent: Monday, September 15, 2008 9:53 AM
Subject: Re: breakthrough
Dyna ddangos i ti cystal prawfddarllenwr ydw i - nes i ddim hyd yn oed
sylwi ar 'enowg' - di peidio'i fod o'n rhyw fath o bysgodyn, rhyw how
berthyn i bennog? Typo hyfryd gan Muiris - un o'i gynigion oedd bod
Vaughan Williams wedi 'ennill ei blu' - dwi'n lecio'r syniad yna'n fawr
iawn!
Annes
2008/9/15 Berwyn Jones <[log in to unmask]>
Dwy' i ddim yn rhyw sicr iawn beth yw ystyr 'enowg' chwaith!
Berwyn
----- Original Message -----
From: annes gruffydd
To: [log in to unmask]
Sent: Sunday, September 14, 2008 5:00 PM
Subject: Re: breakthrough
Berwyn bach, dwn i ddim be ydi'r union ystyr, a taswn i'n gofyn i'r
awdur dwi'm yn meddwl y basa fo fawr callach chwaith. Mae'n un o'r
geiria na fel engage ac involve sy'n golygu dim byd a phob peth.
Mae'n golygu pob un o'r petha ti'n eu hawgrymu a dwi'n lecio'r
cynigion (yn enwedig 'gwelodd ei yrfa dro ar fyd'), diolch. Mi
ddefnyddia i un gwahanol bob tro y daw'r gair i'r fei! Yr unig adeg
dwi'n meddwl ei fod yn golygu rhywbeth penodol ydi ym myd
gwyddoniaeth ne rywbeth felly pan fasa torri trwodd fwya addas
decini. Diolch
Annes
2008/9/14 Berwyn Jones <[log in to unmask]>
Beth yn union yw ystyr 'breakthrough' yn y cyd-destun sy 'da ti?
Ai 'dod i amlygrwydd/i sylw'r cyhoedd', 'cyrraedd cynulleidfa
ehangach', 'dechrau o ddifrif ar ei yrfa', dod yn enowg/ennill
enwogrwydd', 'torri trwodd', 'gwelodd ei yrfa dro ar fyd', 'daeth
haul ar fryn'?
Neu rywbeth arall?
Berwyn
----- Original Message -----
From: annes gruffydd
To: [log in to unmask]
Sent: Saturday, September 13, 2008 11:14 PM
Subject: breakthrough
Ga i fynd yn ol at yr anghenfil yma? Dyma daro mhen i heno ella
basa tro arwyddocaol yn un ffordd o'i gyfleu. Ac wedyn dyma feddwl
wedyn ella basa tro ar ei ben ei hun yn ddigon? Er enghraifft
'daeth tro Vaughan Williams pan...' Ne os oes yna rywbeth
neilltuol wedi'i ddiffinio, 'daeth y tro yng ngyrfa V W pan...' Be
dach chi'n feddwl? Ydi hynna'n cyfleu breakthrough ta ydi o'n rhy
amwys? Ne ella mai'i amwyster ydi'i fantais gan fod tro yn Gymraeg
yn golygu cymaint o betha? Tro lwcus, tro yng nghynffon, tro am
wlad, tro i neud rwbath etc etc etc. Mwya dwi'n meddwl amdano fo
mwya dwi'n ei lecio fo. E.e. 'Ym 1898 y daeth ei dro pan aeth
Amrywiadau Enigma a hi yn ysgubol' (Elgar rwan) - may hynna i mi
yn swnio'n eitha fel breakthrough. Diolch ymlaen llaw am eich
sylwada.
Annes
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.21/1671 - Release Date:
14/09/2008 07:16
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.21/1671 - Release Date:
14/09/2008 07:16
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.21/1671 - Release Date:
14/09/2008 07:16
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.21/1671 - Release Date:
14/09/2008 07:16
Mae'r wybodaeth a gynhwysir yn yr e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag o wedi eu bwriadu yn unig ar gyfer pwy bynnag y cyfeirir ef ato neu atynt. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, hysbyswch yr anfonwr ar unwaith os gwelwch yn dda.
Mae cynnwys yr e-bost yn cynrychioli barn yr unigolyn(ion) a enwir uchod ac nid yw o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn Cyngor Sir Ddinbych. Serch hynny, fel Corff Cyhoeddus, efallai y bydd angen i Gyngor Sir Ddinbych ddatgelu'r e-bost hwn [neu unrhyw ymateb iddo] dan ddarpariaethau deddfwriaethol.
The information contained in this e-mail message and any files transmitted with it is intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error please notify the sender immediately.
The contents of this e-mail represents the views of the individual(s) named above and do not necessarily represent the views of Denbighshire County Council. However, as a Public Body, Denbighshire County Council may be required to disclose this e-mail [or any response to it] under legislative provisions.
|