Diolch Berwyn - ydi "Cyswllt" wedi dod yn enw felly?
Rhyfedd nad ydi 'person' ddim wedi ennill ei blwyf!!!
(Mae angen gwenogluniau yma!)
On 10 Sep 2008, at 14:34, Berwyn Jones wrote:
> Byddwn i'n rhoi 'Cyswllt' neu 'Cysylltwch â'. Yr ail fyddwn i'n ei
> ddewis oni bai bod gofod yn brin. Byddai 'Cysyllter â' yn bosibl,
> ond braidd yn hen-ffasiwn.
>
> Rhyfedd y gwrthwynebiad i 'person' er bod yr ansoddair 'personol'
> wedi hen ennill ei blwyf.
>
> Wedi dweud hynny, mae'r ymadrodd 'yn bersonol, rwy'n/dwi'n ...' yn
> bla. Does di o'i le ar 'Rwy' i'n hunan/Dwi fy hun ...', a does dim
> angen yr 'hun(an)' gan amla chwaith. Ai ymgais yn Saesneg i osgoi
> dweud 'I' yn rhy blaen ar ddechrau brawddeg sydd i gyfri am
> boblogrwydd y cymal cychwynnol 'Personally, ...', tybed?
>
> Berwyn
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts"
> <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, September 10, 2008 9:30 AM
> Subject: contact
>
>
> Mae hyn yn codi'n eithaf aml.
>
> Cwmni'n anfonebu cwsmeriaid gan roi manylion fel:
>
> Rhif Anfoneb
> Rhif Cwsmer
> Rhif TAW
> Dyddiad
> Rhif Ffôn
>
> a
> Contact: John Jones
>
> "Cyswllt" sydd yn y fersiwn flaenorol ond dydw i ddim yn hollol
> hapus â hwn. Ydi "cyswllt"
> wedi dod i olygu "yr un y gallwch gysylltu ag ef"?
> Ydych chi'n cael dweud "Pwy yw dy gyswllt di yn yr heddlu?" bellach?
> Dydi "cysylltydd" ddim yn golygu yn union yr un peth i mi - mae'n
> swnio fel rhywun sydd
> yn cysylltu yn hytrach na rhywun i gysylltu ag ef ac mae'n cael ei
> ddefnyddio am
> "operator".
> Dw i'n gwybod bod "cysylltiadau" yn cael ei ddefnyddio am
> "contacts" ond dw i ddim yn
> meddwl mai "cysylltiad" yw'r unigol, ie?
> Mae TermCymru'n defnyddio "swyddog cyswllt y prosiect" am "prosiect
> contact".
> Beth am "Person Cyswllt"?
> Neu osgoi'r broblem trwy ddweud "Cysylltwch â/ag"
>
> Diolch am bob cymorth
>
> Siân
>
>
>
> ----------------------------------------------------------------------
> ----------
>
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com
> Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.19/1664 - Release Date:
> 10/09/2008 06:00
|