Roedd yn hwyr y nos ac roeddwn i wedi cael glashed o win hefyd!
M
2008/9/15 annes gruffydd <[log in to unmask]>:
> Dew, go dda Ann - tro nesa bydd yna 'fully-fledged' i'w gyfieithu dwi'n mynd
> i ddefnyddio hwnna. 'Erbyn ei 7 oed roedd Mozart yn gyfansoddwr oedd wedi
> ennill ei blu.' Mi ro i wbod i chdi pan fydd mewn rhaglen cyngerdd i chdi
> gael mynd yno i'w weld!
>
> Annes
>
> 2008/9/15 Ann Corkett <[log in to unmask]>
>>
>> fully fledged, eh!
>> Ann
>>
>> ----- Original Message -----
>> From: annes gruffydd
>> To: [log in to unmask]
>> Sent: Monday, September 15, 2008 9:53 AM
>> Subject: Re: breakthrough
>> Dyna ddangos i ti cystal prawfddarllenwr ydw i - nes i ddim hyd yn oed
>> sylwi ar 'enowg' - di peidio'i fod o'n rhyw fath o bysgodyn, rhyw how
>> berthyn i bennog? Typo hyfryd gan Muiris - un o'i gynigion oedd bod Vaughan
>> Williams wedi 'ennill ei blu' - dwi'n lecio'r syniad yna'n fawr iawn!
>>
>> Annes
>>
>> 2008/9/15 Berwyn Jones <[log in to unmask]>
>>>
>>> Dwy' i ddim yn rhyw sicr iawn beth yw ystyr 'enowg' chwaith!
>>>
>>> Berwyn
>>>
>>> ----- Original Message -----
>>> From: annes gruffydd
>>> To: [log in to unmask]
>>> Sent: Sunday, September 14, 2008 5:00 PM
>>> Subject: Re: breakthrough
>>> Berwyn bach, dwn i ddim be ydi'r union ystyr, a taswn i'n gofyn i'r awdur
>>> dwi'm yn meddwl y basa fo fawr callach chwaith. Mae'n un o'r geiria na fel
>>> engage ac involve sy'n golygu dim byd a phob peth. Mae'n golygu pob un o'r
>>> petha ti'n eu hawgrymu a dwi'n lecio'r cynigion (yn enwedig 'gwelodd ei yrfa
>>> dro ar fyd'), diolch. Mi ddefnyddia i un gwahanol bob tro y daw'r gair i'r
>>> fei! Yr unig adeg dwi'n meddwl ei fod yn golygu rhywbeth penodol ydi ym myd
>>> gwyddoniaeth ne rywbeth felly pan fasa torri trwodd fwya addas decini.
>>> Diolch
>>>
>>> Annes
>>>
>>> 2008/9/14 Berwyn Jones <[log in to unmask]>
>>>>
>>>> Beth yn union yw ystyr 'breakthrough' yn y cyd-destun sy 'da ti?
>>>>
>>>> Ai 'dod i amlygrwydd/i sylw'r cyhoedd', 'cyrraedd cynulleidfa ehangach',
>>>> 'dechrau o ddifrif ar ei yrfa', dod yn enowg/ennill enwogrwydd', 'torri
>>>> trwodd', 'gwelodd ei yrfa dro ar fyd', 'daeth haul ar fryn'?
>>>>
>>>> Neu rywbeth arall?
>>>>
>>>> Berwyn
>>>>
>>>> ----- Original Message -----
>>>> From: annes gruffydd
>>>> To: [log in to unmask]
>>>> Sent: Saturday, September 13, 2008 11:14 PM
>>>> Subject: breakthrough
>>>> Ga i fynd yn ol at yr anghenfil yma? Dyma daro mhen i heno ella basa tro
>>>> arwyddocaol yn un ffordd o'i gyfleu. Ac wedyn dyma feddwl wedyn ella basa
>>>> tro ar ei ben ei hun yn ddigon? Er enghraifft 'daeth tro Vaughan Williams
>>>> pan...' Ne os oes yna rywbeth neilltuol wedi'i ddiffinio, 'daeth y tro yng
>>>> ngyrfa V W pan...' Be dach chi'n feddwl? Ydi hynna'n cyfleu breakthrough ta
>>>> ydi o'n rhy amwys? Ne ella mai'i amwyster ydi'i fantais gan fod tro yn
>>>> Gymraeg yn golygu cymaint o betha? Tro lwcus, tro yng nghynffon, tro am
>>>> wlad, tro i neud rwbath etc etc etc. Mwya dwi'n meddwl amdano fo mwya dwi'n
>>>> ei lecio fo. E.e. 'Ym 1898 y daeth ei dro pan aeth Amrywiadau Enigma a hi yn
>>>> ysgubol' (Elgar rwan) - may hynna i mi yn swnio'n eitha fel breakthrough.
>>>> Diolch ymlaen llaw am eich sylwada.
>>>>
>>>> Annes
>>>>
>>>> ________________________________
>>>>
>>>> No virus found in this incoming message.
>>>> Checked by AVG - http://www.avg.com
>>>> Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.21/1671 - Release Date:
>>>> 14/09/2008 07:16
>>>
>>> ________________________________
>>>
>>> No virus found in this incoming message.
>>> Checked by AVG - http://www.avg.com
>>> Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.21/1671 - Release Date:
>>> 14/09/2008 07:16
>>
>> ________________________________
>>
>> No virus found in this incoming message.
>> Checked by AVG - http://www.avg.com
>> Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.21/1671 - Release Date:
>> 14/09/2008 07:16
>
>
|