> Ydy pager yr un peth a^ beeper? Os felly, a fyddai bipiwr yn gwneud y tro?
> Dwi'n amau falle mai dim ond gwneud swn galw mai bipiwr a bod pager yn
> rhoi rhyw neges fer ond dydw i ddim yn siwr.
Mae'r gair yma wedi codi bob blwyddyn ers 2001, a does neb byth
yn fodlon ar y cyfieithiad arferol am ryw resymau esoterig.
Cyfieithiad yr union ystyr gwreiddiol:
macwy electronig
Cyfieithiad 'bach o hwyl' sy'n golygu dim byd heb y cyfieithiad:
gwas bach
Cyfieithiad 'trio rhy'n galed i feddwl am derm cyfoes:
gwastronig
Cyfieithiad o air answyddogol yn saesneg:
bipiwr
Cyfieithiad mae pawb yn ddefnyddio ond mae'n anaddas:
galwr
Cyfieithiad lled-synhwyrol i osgoi amwysder:
teclyn galw
(iff in dowt, defnyddiwch teclyn, dyfais, pethna ayyb)
Mae'r teclyn ar y ffordd mas 'ta beth. Mae'r rhwydweithiau ffon
symudol yn llawer rhatach i'w rhedeg ac yn cyrraedd fwy o
lefydd. Efallai bydd y drafodaeth yma yn parhau yn hir ar ol i'r
teclyn ei hun ddiflannu.
|