I mi mae sgiliau'n rhywbeth y mae rhywun yn ei ddysgu a medrau yn dangos
dawn naturiol, gynhenid.
Wil
Siân Roberts wrote:
> Wir, dyw "sgiliau" ddim yn fy mhoeni i o gwbl.
> Dw i'n deall mai benthyciad yw e, ond mae'n hen fenthyciad - Wiliam
> Llŷn yn yr 16g - "Da yw ei sgil, nid oes gwad"
> Mae'r acen dipyn bach yn ddiflas yn yr unigol ond dyw'r unigol ddim yn
> digwydd yn aml!
> Beth sy'n gwneud "sgiliau" yn fwy tebyg i hen neidr yn chwydu nag
> unrhyw air arall sy'n cynnwys y llythyren "s"?
> Sut mae hen neidr yn chwydu yn swnio'n wahanol i neidr ifanc yn chwydu?
>
> Dw i ddim yn licio "sgilgar" chwaith!
>
> Hwyl
> Siân
>
> On 24 Aug 2008, at 10:57, Meinir Thomas wrote:
>
>> Pan ro'n i'n gweithio 'da'r cyngor yn Rhondda, roedd y bos yn mynnu'n
>> bod ni'n defnyddio "medrau". Rwy'n parhau i ddefnyddio "medrau" yn fy
>> swydd bresennol. Os ydyn ni'n defnyddio hysbyseb sydd wedi'i
>> recordio'n barod gan gwmni (fel arfer rhai sy'n cael eu darlledu ar
>> sawl gorsaf radio dros Gymru), y gair "sgiliau" sy'n cael ei
>> ddefnyddio bob tro. Rwy'n gwingo bob tro rwy'n eu clywed!
>>
>> Meinir
>>
>> */annes gruffydd <[log in to unmask]
>> <mailto:[log in to unmask]>>/* wrote:
>>
>> Yn ateb i bwynt Mary sydd heb eto gyrraedd yr edefyn yma - fedra
>> i ddim defnyddio'r gair medrau pan fo cwmni'n ei alw'i hun yn
>> Sgiliau Creadigol a Diwylliannol yn na fedra? felly rhaid i mi
>> ddefnyddio'r erthyllair sgiliau. Pwy bynnag fathodd y gair yn y
>> lle cynta sydd ar fai ....... Pwy???????
>> Annes
>>
>> 2008/8/23 Siân Roberts <[log in to unmask]
>> <mailto:[log in to unmask]>>
>>
>> Mae 'na bethau gwaeth!
>> Mae Plaid Cymru wedi dechrau galw'u cefnogwyr gweithgar yn
>> "actifyddion". O! Na!
>>
>>
>> On 22 Aug 2008, at 23:37, annes gruffydd wrote:
>>
>> Sori, jyst isio bwrw mol. Pwy isio bathu'r hen air hyll
>> yna o gwbwl. Be oedd yn bod ar 'medrau'? Mae sgiliau yn
>> swnio fel rhyw hen neidar yn chwydu. Ond go daria, dwi'n
>> gorfod ei ddefnyddio drwy'r amser am ei fod wedi ennilli
>> blwy a chwmniau'n eu galw'u hunain yn Sgiliau rwbath
>> neu'i gilydd. Sut aflwydd y digwyddodd hyn i gyd?
>>
>> Annes
>>
>>
>>
>>
>>
>> *MeinirAnnThomas*
>>
>> Send instant messages to your online friends
>> http://uk.messenger.yahoo.com
>>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com
> Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.6.7/1629 - Release Date: 23/08/2008 13:16
>
|