Mae'n drueni fod testunau sy wedi'u paratoi'n raenus yn Gymraeg yn cael eu sarnu'n aml iawn pan fydd 'y rhywun yn y swyddfa sy'n gallu siarad Cymraeg' yn cael ei berswadio/pherswadio i wneud mân newidiadau/addasiadau i'r fersiwn wreiddiol. Mae ceisio cael perswâd ar yr awdurdod wedyn i sgrapio'r fersiwn lygredig bron yn amhosibl. Oes rhywun wedi sylwi ar y ffurflen i adnewyddu disg treth car, V11W? Mae wedi ei haddasu'n amlwg yn y blynyddoedd diwetha, ac mae pethau fel hyn ynddi nawr 'Os rydych am ddisg treth, am ba gyfnod i chi angen?' ac yna 'Os i chi am ddatgan...' Duw a ŵyr beth sy wedi'i newid yn y nodiadau ar gefn y ddalen: mae arna i ofon edrych!
Ac mae'r ffurflen TAW Gymraeg safonol wedi ei sbaddu gan ychwanegiadau fel 'Mae'n rhaid i'ch ffurfen treth wedi ei chwblhau a llofnodi a unrhyw dreth sy'n ddyledus cael ei derbyn ar neu cyn y dyddiad dyledus (ddangosir drosodd)'.
Oes gan rywun awgrym sut i dynnu sylw'r 'cwsmeriaid' at y ffaith mai'r hyn sy ganddyn nhw nawr yw ffurflen annerbyniol? Oni bai ein bod i gyd yn arllwys cawodydd o lythyrau ar eu pennau nhw?
Mary
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 28 August 2008 19:20
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Eryri Gwyrdd
'Dw i ddim yn siwr fy mod i'n trafod yr un pwynt a Wil, ond 'rwyf newydd
edrych ar wefan Eryri Gwyrdd. Byddwn i'n dweud na fu cyfieithydd
proffesiynol yn ymwneud a'r gwaith o gwbl, gan y defnyddir y pennawd "Eryri
Gwyrdd" *er gwaethaf* y ffaith bod pennawd arall ar yr un tudalen am
"Gwobrau Twristiaeth Eryri Werdd"! Sylwaf hefyd ar y cyfeiriadau at
"twristiaeth cynaladwy". Anwybodaeth yw hyn, nid penderfyniad ymwybodol -
anwybodaeth rhywun nad yw'n darllen "Golwg" chwaith! Ceisiaf ysgrifennu
llythyr caredig atynt cyn i Bruce weld y wefan a sgwennu llythyr cas.
Ann
----- Original Message -----
From: "Inc Cyfieithu Translations" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, August 28, 2008 6:42 PM
Subject: Re: Eryri Gwyrdd
> Mi wn i fod hyn wedi cael ei drafod hyd syrffed ond fy marn i yw na dylid
> talu gormod o sylw i eiriau gwirion yn y testun Saesneg oni bai eu bod nhw
> yn rhai technegol. Mi fyddwn ni'n gwneud ein gorau i ddehongli'r testun
> Saesneg a'i gyflwyno mewn Cymraeg dealladwy. Yn amlach na pheidio mae
> hynny'n golygu dod i'r casgliad bod yr awdur yn trio dangos ei hun ac yn
> defnyddio rhai geiriau nad ydy o'n gwybod beth yw eu hystyr. Cyn belled a
> bo byrdwn y ddogfen Saesneg yn cael ei gyflwyno'n ddealladwy, ond nid
> efallai air am air, yn y Gymraeg mae'r cyfieithiad yn dderbyniol. Ond, ac
> mae o'n ond mawr, mae testunau technegol yn wahanol. Mae'n rhaid cyfieithu
> pob un term yn y rhain.
>
> Wil
>
> Ann Corkett wrote:
>> Efallai y bydd Job 39:25 yn addas.
>> Ann
>> ----- Original Message ----- From: "Jane Owen"
>> <[log in to unmask]>
>> To: <[log in to unmask]>
>> Sent: Thursday, August 28, 2008 5:08 PM
>> Subject: Fw: Eryri Gwyrdd
>>
>>
>>> gweler www.eryri-gwyrdd.co.uk
>>>
>>> llyfryn Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri 2008 - 09 tud 31 "Eryri
>>> Gwyrdd"
>>>
>>>
>>> Jane Jones Owen
>>> Cyfieithydd y Sir / Corporate Translator
>>> 01824 712524
>>> [log in to unmask]
>>> [log in to unmask]
>>>
>>>
>>>
>>> Mae'r wybodaeth a gynhwysir yn yr e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a
>>> drosglwyddir gydag o wedi eu bwriadu yn unig ar gyfer pwy bynnag y
>>> cyfeirir ef ato neu atynt. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy
>>> gamgymeriad, hysbyswch yr anfonwr ar unwaith os gwelwch yn dda.
>>>
>>> Mae cynnwys yr e-bost yn cynrychioli barn yr unigolyn(ion) a enwir uchod
>>> ac nid yw o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn Cyngor Sir Ddinbych.
>>> Serch hynny, fel Corff Cyhoeddus, efallai y bydd angen i Gyngor Sir
>>> Ddinbych ddatgelu'r e-bost hwn [neu unrhyw ymateb iddo] dan
>>> ddarpariaethau deddfwriaethol.
>>>
>>> The information contained in this e-mail message and any files
>>> transmitted with it is intended solely for the use of the individual or
>>> entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in
>>> error please notify the sender immediately.
>>>
>>> The contents of this e-mail represents the views of the individual(s)
>>> named above and do not necessarily represent the views of Denbighshire
>>> County Council. However, as a Public Body, Denbighshire County Council
>>> may be required to disclose this e-mail [or any response to it] under
>>> legislative provisions.
>>>
>>>
>>>
>>>
>>> No virus found in this incoming message.
>>> Checked by AVG - http://www.avg.com
>>> Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.6.10/1638 - Release Date:
>>> 27/08/2008 19:06
>>>
>>>
>>>
>>
>> No virus found in this incoming message.
>> Checked by AVG - http://www.avg.com Version: 8.0.138 / Virus Database:
>> 270.6.10/1638 - Release Date: 27/08/2008 19:06
>>
>>
>>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com Version: 8.0.138 / Virus Database:
> 270.6.10/1638 - Release Date: 27/08/2008 19:06
>
>
>
|