Os ydych chi'n defnyddio Windows, bydd y 'Character Map' yn agor rhywbeth
tebyg i'r Insert/Symbol sydd yn Word - ewch i
Start/Programs/Accessories/System Tools ac fe fydd e yn y rhestr hwnnw.
Os ydych chi'n defnyddio Mac, bydd Edit/Special Characters yn gwneud yr un
peth.
Ceri
> Caren Evans, Swyddog Datblygu Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru gynt, oedd y
> gyntaf i mi ei gweld yn cynnwys toeon bach ar 'w' ac 'y' mewn e-bost. Fe
> esboniodd hi'r broses fel hyn:
>
> "Agor Cysgliad trwy Start, Programs, Cysgliad, Cysill ac wedi i Cysill
> ymddangos ar y sgrin, ei lleihau. Yna amlygu'r neges e-bost a phwyso Ctrl
> Alt W - ac fe ddylai Cysill ddechrau gwirio a chywiro yn ôl y galw. Nid
> oedd yn gwneud hyn bob tro i mi ar y cychwyn ond mae i weld yn ymddwyn yn
> llawer gwell y dyddiau hyn!"
>
> (Fe'i ces i'n haws cadw copi o'i dau e-bost a chopïo'r llythrennau ohonyn
> nhw yn ôl y galw.)
>
> Berwyn
> ----- Original Message -----
> From: Megan Tomos
> To: [log in to unmask]
> Sent: Monday, August 18, 2008 9:16 PM
> Subject: Re: tie line
>
>
> Mae gen i gof am rywun yn ystod sesiwn drafod termau yn ein cynadleddau
> cynnar yn sôn mai gair Ceredigion am semi-detached house oedd ty ( sut
> mae cael yr aceni y mewn ebost?) pâr. Hynny yw, un o ddau dy. Felly
> beth am linell bâr am tie line?
>
> Megan
>
>
> > Date: Mon, 18 Aug 2008 17:43:15 +0100
> > From: [log in to unmask]
> > Subject: tie line
> > To: [log in to unmask]
> >
> > Diolch i bawb am yr ymatebion i'm cwestiynau yn ymwneud â systemau
> ffôn.
> > Dyma un arall (yr olaf gobeithio): 'tie line', sef 'a private
> connection between 2
> > telephone systems'.
> > Unrhyw gynigion ogyd.
> > Diolch ymlaen llaw.
> > Dafydd
>
>
>
> ------------------------------------------------------------------------------
> Get fish-slapping on Messenger! Play Now
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com
> Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.6.5/1619 - Release Date: 18/08/2008
> 17:39
>
--
Ceri Skinner
Swyddog Prosiect CyMAL | CyMAL Project Officer
88 Stryd y Gwynt | 88 Wind Street
Rhydaman | Ammanford
Sir Gaerfyrddin | Carmarthenshire
SA18 3DR | SA18 3DR
[log in to unmask] | 01970 632800
|