Ymadrodd dilornus yw 'gwlad y medra'. Mi dyfodd wrth i Fonwysion newydd
ddod i weithio i'r chwarel ateb 'medra' i bob cwestiwn 'fedri di....?'.
Nid gwlad y sgiliau ydy'r ystyr ond gwlad y broliwrs.
Wil
Berwyn Jones wrote:
> Gan nad 'gwlad y sgiliau' yw Môn, fe fues i am flynyddoedd yn
> defnyddio 'medrau', ond brwydro yn erbyn y lli rôn i, a bu'n rhaid
> ildio yn y diwedd. Efallai y dylwn i fod wedi dechrau defnyddio
> 'sgilgar' (gair sy'n cadarnhau sylwadau Bruce) am 'skilled' a drysu
> pethau'n waeth byth!
>
> Mae'r un math o beth wedi digwydd yn achos 'opsiwn', lle gwnâi 'dewis'
> y tro yn aml iawn iawn. Bydda i'n amau hefyd fod 'amrywiaeth mawr o
> ...' yn rhagori ar 'ystod eang o ...', ond gwell peidio â mentro'n rhy
> bell i wlad mwypwy.
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> *From:* Ann Corkett <mailto:[log in to unmask]>
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> *Sent:* Saturday, August 23, 2008 12:06 AM
> *Subject:* Re: sgiliau
>
> Mae Bruce wedi dweud wrthyf sawl tro, 'mae ystyr "sgil" yw "tric"
> neu "ystryw" ("Sawl sgil wrth gael Wil i'w wely"), a bod defnyddio
> "sgil " i olygu medr yn golygu colli gair a oedd ag ystyr
> defnyddiol arall.
>
> Ar y llaw arall, mae GPC yn rhoi'r ddau ystyr.
>
> Ann
> ----- Original Message -----
>
> *From:* annes gruffydd <mailto:[log in to unmask]>
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> *Sent:* Friday, August 22, 2008 11:37 PM
> *Subject:* sgiliau
>
> Sori, jyst isio bwrw mol. Pwy isio bathu'r hen air hyll yna o
> gwbwl. Be oedd yn bod ar 'medrau'? Mae sgiliau yn swnio fel
> rhyw hen neidar yn chwydu. Ond go daria, dwi'n gorfod ei
> ddefnyddio drwy'r amser am ei fod wedi ennilli blwy a
> chwmniau'n eu galw'u hunain yn Sgiliau rwbath neu'i gilydd.
> Sut aflwydd y digwyddodd hyn i gyd?
>
> Annes
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com
> Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.6.7/1628 - Release Date: 22/08/2008 18:32
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com
> Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.6.7/1628 - Release Date: 22/08/2008 18:32
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com
> Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.6.7/1628 - Release Date: 22/08/2008 18:32
>
|