Er nad ydw i'n awdurdod, does gan y lluosog ddidolnod yn fy ngeiriadur:
glo%yn [gloynnod, gloynnau, m.] - (n.) coal
--Mark
Geraint Lovgreen wrote:
> Dim ond codi sgwarnog o ran ymyrraeth ar ddydd gwener:
>
> Lluosog glöyn ydi gloynnod.
>
> Mae pob geiriadur sydd gen i yn rhoi glöyn(nod), sy'n awgrymu bod y
> didolnod yn aros ar yr o yn y lluosog.
>
> Mae cysill yn rhoi'r didolnod ar yr y, gan ddilyn y rheol mai ar yr acen
> y dylid rhoi didolnod .
>
> Ond does dim angen didolnod o gwbl, nagoes? Mae'r -nn- ddwbl yn ei
> gwneud yn amlwg nad deusain ydi'r -oy-.
>
>
> Mond rhywbeth bach i gnoi cil arno.
>
> Geraint
>
> (Gweld bod Bruce yn dal ati yn Golwg efo'i ymgyrch yn erbyn yr Urdd.
> SLOGAN YDIO er mwyn Duw, does dim rhaid iddo fod yn ramadegol gywir!!!)
|