Dwi'n cymryd na ddylem dreiglo geiriau sydd wedi'u benthyg o'r Saesneg fel
gem, golff, graffeg etc ond wn i ddim a oes rheol am yr eithriadau eraill.
Melanie
----- Original Message -----
From: "Wyn Hobson" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, June 27, 2008 2:35 PM
Subject: Re: Yn Dyffryn!
Mae'r drafodaeth wedi fy atgoffa o hanes Sais o athro Mathemateg yn yr ardal
hon, flynyddoedd lawer yn ôl, a ddysgodd Gymraeg gyda chymaint o barch at
reolau gramadeg fel ei fod yn arfer gwahodd cydweithwyr i "ddod am êm o
olff".
Oes yna reol ynglyn â'r eithriadau i'r rheol yn achos y llythyren 'g'?
Wyn
|