Ond yn ôl GPC
elwa: bg.a. Ennill, cael budd neu fantais, gwneud elw neu broffid (o):
Ac o'r 15fed ganrif - Gwlyt eluyt elweis o honei (Cynddelw)
Mae'r enghreifftiau o "elwa ar" yn tueddu i fod yn rhai negyddol - "Siopwyr
(neu Siarpwyr) a elwant ar angen, neu anwybodaeth y prynwr."
----- Original Message -----
From: "SIAN ROBERTS" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, June 19, 2008 11:15 AM
Subject: Re: Elwa ar/Elwa o
Yn ôl Arddulliadur Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth
Cynulliad Cymru:
"Dyma rai camgymeriadau cyffredin: ....
Cywir:
elwa ar y profiad
Anghywir:
elwa o'r profiad ...."
Siân
--- Rhian Huws <[log in to unmask]> wrote:
> Bore Da
> Cwestiwn gramadegol sydd gen i.
> Flynyddoedd yn ôl roeddwn i'n arfer credu bod 'elwa
> o' yn golygu 'to benefit from' ac 'elwa ar' yn
> golygu rhywbeth negyddol fel 'cymryd mantais'. Yna
> cefais fy nghywiro a dywedwyd wrthyf mai 'elwa ar'
> yw'r rheol bob tro, beth bynnag fo'r cyd-destun.
> Cadwais at hynny ond yn ddiweddar dywedodd rhwyun
> BOD angen gwahaniaethu drwy ddefnyddio 'elwa ar' ac
> 'elwa o'! Dw i wedi edrych yn GyrA dan 'benefit' ac
> 'elwa ar' sydd yno! Dw i bellach wedi hen ddrysu!
> Oes goleuni gan rhywun?
> Diolch yn fawr
>
> Rhian
>
> Rhian Huws
> Arbenigwr Iaith Gymraeg/Welsh Language Specialist
> Canolfan Iechyd Cymru/Wales Centre for Health
> 14 Ffordd yr Eglwys Gadeiriol/14 Cathedral Road
> Caerdydd/Cardiff
> CF11 9LJ
> Ffôn/Telephone: 029 20227744
> Ebost/Email: [log in to unmask]
> Ystyriwch yr amgylchedd cyn argraffu'r e-bost hwn -
> diolch / Please consider the environment before
> printing this email - thank you
>
>
>
|