Rydych wedi codi pwynt diddorol ond o'u trin fel enwau benywaidd, a
fyddai rhaid eu treiglo ar ol y fannod neu ar ol ffurfiau benywaidd
rhifau, e.e. Y Dgau, dwy dgau?
M
2008/6/13 Wyn Hobson <[log in to unmask]>:
> Awgrymwyd i mi'n ddiweddar bod byrfoddau ac acronymau Cymraeg i gyd yn cael
> eu trin yn ymarferol fel enwau gwrywaidd i bwrpas treiglo ansoddeiriau ac ati.
>
> Felly, er enghraifft: 'TGAU diwygiedig'.
>
> Fy arfer ers blynyddoedd, fodd bynnag, yw trin y byrfodd/acronym yn ôl
> cenedl prif air yr ymadrodd y mae'r byrfodd/acronym yn ei gynrychioli.
>
> Yn yr enghraifft uchod, 'Tystysgrif' -- felly, 'TGAU ddiwygiedig'.
>
> Alla' i ganfod dim yn y llyfrau gramadeg sy'n ymdrin â'r pwnc hwn. Beth
> felly yw barn aelodau'r negesfwrdd?
>
> Wyn
>
|