Cytuno nad yw "gryrdd" yn ansoddair sy'n disgrifio "urdd" yn y
cyd-destun hwn. Dwi'n meddwl amdano fo fel byrhâd "Urdd [y Mudiad]
Gwyrdd".
--Mark
Siân Roberts wrote:
> Pe bawn i am sefydlu cymdeithas i ymwneud â materion gwyrdd, byddai "Yr
> Urdd Werdd" yn enw posib arni.
> Er bod darganfyddiad Geraint yn siwtio fy nadl, dw i ddim yn dadlau mai
> enw gwrywaidd yw "urdd". Go brin y bydd ymgyrchoedd eraill o'r enw
> "Urdd Gofalus", "Urdd Cyffrous" - gobeithio beth bynnag!
>
> Fysech chi ddim yn sôn am yr Urdd gan ddweud "mae hi'n Urdd
> lwyddiannus", "mae hi'n urdd fawreddog". Hynny yw, enw yw "Urdd" erbyn
> hyn, nid disgrifiad o'r mudiad.
>
> Yn "Urdd Gwyrdd", dw i ddim yn meddwl am "gwyrdd" fel ansoddair fel sydd
> yn "cadair werdd". Mae'r ddau air ar wahân i ryw raddau ac yn ateb ei
> gilydd.
>
>
>
>
> On 12 Jun 2008, at 03:46, [log in to unmask] wrote:
>
>> O ran pennu beth yw cenedl y gair 'Urdd' i'r rhan fwyaf o bobl heddiw,
>> efallai ein bod yn defnyddio sampl sy ddim ond yn adlewyrchu barn
>> carfan fechan o bobl (heb sôn am farn dyrnaid o gyfieithwyr
>> penboeth!). Os gellid dangos mai gwrywaidd yw'r gair urdd gan y rhan
>> fwyaf o bobl sy'n gweithio yn y mudiad hwnnw, ac yn yr ysgolion, wedyn
>> dyna gloi'r ddadl yn derfynol. Y peth i'w osgoi ydy chwiwiau
>> ieithyddol di-sail heb gysylltiad â'r byd go-iawn.
>> O ran hwyl, p'un sy'n gywir:
>> Beth yw'r Urdd? Mae hi'n fudiad ieuenctid neu Mae e/o'n fudiad
>> ieuenctid.
>> Paul W. Birt, PhD
>> Chaire d'Études celtiques,
>> Université d'Ottawa,
>> 70, rue Laurier,(131)
>> Ottawa,
>> K1N 6N5
>> Ontario
>> Canada
>> www.modernlanguages.uottawa.ca/celtic.html
>> Tél. (613)562-5800(3767)
>> Téléc/Fax (613)562-5138.
>>
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
>>
>> Date: Wed, 11 Jun 2008 22:16:50
>> To:[log in to unmask]
>> Subject: Re: Urdd Gwyrdd
>>
>>
>> Os ydi o'n swnio'n iawn i'r rhan fwyaf o'n cyd-Gymry, pwy ydan ni i bennu
>> rheolau.
>>
>> Gweler GPC "- eb. ac yn eithriadol eg."
>>
>> Felly does dim dadl, nagoes? Un o'r achosion eithriadol hynny yw hwn.
>>
>> Geraint
>>
>> ----- Original Message -----
>> From: <[log in to unmask]>
>> To: <[log in to unmask]>
>> Sent: Thursday, June 12, 2008 2:22 AM
>> Subject: Re: Urdd Gwyrdd
>>
>>
>>> Dwi'n cytuno gant y cant ag Ann, er gwaethaf y dadleuon esgotig a
>>> di-sail
>>> a godir i geisio cyfiawnhau peidio â threiglo neu ddefnyddio ffurf
>>> fenywaidd yr ansoddair. Nid oes amau nad 'mudiad' ydy'r Urdd, ond nid ar
>>> sail ystyr neu arwyddocâd gair y pennir cenedl gair ychwaith. Y broblem,
>>> fwy na thebyg yw fod y gair 'urdd' yn brin bellach yn y Gymraeg
>>> heblaw am
>>> y 'mudiad' ieuenctid, ac aeth cenedl y gair yn niwlog o'r herwydd.
>>> Mae gan
>>> ieithoedd eu rheolau mewnol, ac os na pherchir y rhain, waeth inni heb
>>> roi'r delyn y y llwyn.
>>>
>>> Paul W Birt (gweithiwr ar Eiriadur yr Academi gynt).
>>> Paul W. Birt, PhD
>>> Chaire d'Études celtiques,
>>> Université d'Ottawa,
>>> 70, rue Laurier,(131)
>>> Ottawa,
>>> K1N 6N5
>>> Ontario
>>> Canada
>>> www.modernlanguages.uottawa.ca/celtic.html
>>> Tél. (613)562-5800(3767)
>>> Téléc/Fax (613)562-5138.
>>>
>>>
>>> -----Original Message-----
>>> From: Ann Corkett <[log in to unmask]>
>>>
>>> Date: Wed, 11 Jun 2008 20:38:13
>>> To:[log in to unmask]
>>> Subject: Re: Urdd Gwyrdd
>>>
>>>
>>> 110 Clean DocumentEmail false false false MicrosoftInternetExplorer4
>>> Ydy hyn yn goglygu nad oes angen treiglo ar ol "Cymdeithas" na
>>> "Llywodraeth" na "Senedd" na "Plaid"?
>>>
>>> O ran arwyddair yr Urdd, gan fod yr Urdd wedi bod yn ystyried cael
>>> gwared
>>> arno'n weddol ddiweddar, 'dw i'n amau nad yw'r plant yn clywed llawer
>>> ohono. Mae rhywun yn cynefino a'r hyn mae'n ei glywed. Pan oeddwn i'n
>>> dysgu siarad Cymraeg, 'roeddwn i'n hollol hapus a'r gair "briwgig" am
>>> "mince" heb sylweddoli iddo ddod o'r Gododdin, ac mae'n debyg y byddwn i
>>> wedi cynefino a "diddosben" a "perdoneg" tasai rhywun wedi dweud wrthyf
>>> mai dyna oedd y geiriau ar gyfer het a phiano. Byddai'r plant wedi
>>> cynefino ag "Urdd Werdd" o gael y cyfle, ond rwan mi fyddan nhw'n
>>> cynefino
>>> ag "Urdd Gwyrdd".
>>>
>>> Er gwybodaeth, dyma ymateb Prif Weithredwr yr Urdd. Mae'n ymddangos y
>>> bydd
>>> rhai ohonoch yn hapus arno. Dw i ddim yn siwr, o'r neges, a ydy
>>> swyddogion
>>> yr Urdd wedi defnyddio'r slogan am nad oeddent yn gwybod yn well
>>> ynteu am
>>> nad oeddent yn malio.
>>> Ann
>>>
>>>
>>> Annwyl Ann
>>> Diolch yn fawr i chi am eich e-bost.
>>> Mae cynnal safonau ieithyddol yn rhywbeth sy’n agos at fy nghalon. Mae’r
>>> Urdd yn un o’r ychydig sefydliadau yng Nghymru sy’n cynnig awyrgylch
>>> gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg – a thrwy hynny gwn ein bod yn
>>> cyfoethogi a
>>> gwella sgiliau iaith nifer fawr o’n gweithwyr. Rwy’n ymwybodol bod
>>> sgiliau
>>> megis prawfddarllen a drafftio cywir yn brin iawn iawn ac rydym yn
>>> gwneud
>>> ymdrech bwriadol i ddatblygu’r rhain ymysg ein staff.
>>> Fodd bynnag, rwy’n ymwybodol hefyd o’r angen i gyfathrebu’n glir gyda’n
>>> cynulleidfaoedd. Nod y teitl ‘Urdd Gwyrdd’ oedd denu sylw at ein
>>> amrywiol
>>> gynlluniau – a llunio theitl byr, bachog a fyddai’n aros yn y cof. Mae
>>> wedi llwyddo i wneud hynny. Rwy’n berffaith hapus ein bod wedi
>>> defnyddio’r
>>> teitl, beth bynnag yw eich barn am ei gywirdeb ieithyddol.
>>> Yn wir – rydym fel mudiad yn defnyddio’r gair ‘Urdd’ i olygu ein mudiad.
>>> Mae ‘mudiad’ hyd y gwn yn air gwrywaidd – ac felly byddwn yn dadlau fod
>>> ‘mudiad gwyrdd’ yn gywir – ac felly fod ‘Urdd Gwyrdd’ yn dderbyniol. Nid
>>> ‘guild’ yw ei ystyr i ni – mae’r gair Urdd wedi dod yn gyfystyr a Mudiad
>>> Urdd Gobaith Cymru.
>>> Byddwn yn croesawu gweld unrhyw lythyr o’ch eiddo yn ymddangos yn y wasg
>>> ar y testun – neu mae croeso i chi ohebu ymhellach a mi.
>>> Diolch am dynnu fy sylw at y mater – ac am ddangos diddordeb yn ein
>>> gwaith.
>>> Yn gywir
>>> Efa
>>>
>>> ----- Original Message -----
>>> From: Puw, John <mailto:[log in to unmask]>
>>> To: [log in to unmask]
>>> <mailto:[log in to unmask]>
>>> Sent: Wednesday, June 11, 2008 5:13 PM
>>> Subject: Re: Urdd Gwyrdd
>>>
>>>
>>>
>>> Finne hefyd yn y cyd-destun hwn – Mudiad ydi’r Urdd, a’r cwbl ydi’r gair
>>> Urdd erbyn hyn yw enw ar y mudiad.
>>>
>>> Hwn ydi’r unig Urdd o’r fath. Faint o blant sy’n cofio “Dros Gymru, Dros
>>> Gyd-ddyn, Dros Grist” tybed – ond fe fydd Urdd Gwyrdd yn sicr o afael yn
>>> nychymig pobl ifanc.
>>>
>>>
>>>
>>> John Puw
>>> GRNCM; TAR / PGCE;
>>> Aelod Cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru
>>> Full Member of Association of Welsh Translators and Interpreters
>>> Cyfieithydd / Translator
>>> Uned Gyfieithu / Translation Unit
>>> Adran Gwasanaethau Iaith Gymraeg / Welsh Language Services Department
>>> Ffôn / Tel: 01492 805135
>>> Est / Ext: 05135
>>> E-bost / E-mail: <mailto:[log in to unmask]>
>>> [log in to unmask]
>>> Gwefan / Website: <http://www.youtube.com/watch?v=z7y9hBCgtCY>
>>> http://www.youtube.com/watch?v=z7y9hBCgtCY
>>>
>>>
>>>
>>>
>>> ----------------
>>>
>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint
>>> Lovgreen
>>> Sent: 11 June 2008 17:04
>>> To: [log in to unmask]
>>> Subject: Re: Urdd Gwyrdd
>>>
>>>
>>> Dwi'n cytuno.
>>>
>>> ----- Original Message -----
>>>
>>> From: Siân Roberts <mailto:[log in to unmask]>
>>>
>>> To: [log in to unmask]
>>> <mailto:[log in to unmask]>
>>>
>>> Sent: Wednesday, June 11, 2008 4:30 PM
>>>
>>> Subject: Re: Urdd Gwyrdd
>>>
>>>
>>> Ond pan fyddwn ni'n sôn am yr Urdd, nid am "a guild" fyddwn ni'n meddwl.
>>> Nid "a green guild" yw "Urdd Gwyrdd"
>>>
>>> Dw i ddim yn meddwl bod pobl yn sôn am yr Urdd fel "hi".
>>>
>>> "Fe" - y mudiad - neu "nhw" sy'n cael ei ddefnyddio dw i'n meddwl.
>>>
>>>
>>>
>>>
>>>
>>>
>>>
>>>
>>> On 11 Jun 2008, at 16:18, Catrin Alun wrote:
>>>
>>>
>>>
>>>
>>> O'n i ddim yn cofio am y Blaid Werdd!
>>>
>>> ----- Original Message -----
>>>
>>> From: David
>>> Bullock <mailto:[log in to unmask]>
>>>
>>> To: [log in to unmask]
>>> <mailto:[log in to unmask]>
>>>
>>> Sent: Wednesday, June 11, 2008 4:01 PM
>>>
>>> Subject: Re: Urdd Gwyrdd
>>>
>>>
>>>
>>>
>>> Ie, ond pam na fydden nhw wedi dweud Urdd Wyrdd?
>>>
>>> (Ac erbyn meddwl, mae’r Blaid Werdd wedi bod o gwmpas ers sbel heb i neb
>>> ddweud bod hynny’n cyfleu syniad gwahanol i blaid gwyrdd).
>>>
>>> size=2 width="100%" align=center tabIndex=-1>
>>>
>>> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]
>>> <mailto:[log in to unmask]> ] Ar ran Geraint Lovgreen
>>> Anfonwyd/Sent: 11 Mehefin 2008 15:47
>>> At/To: [log in to unmask]
>>> <mailto:[log in to unmask]>
>>> Pwnc/Subject: Re: Urdd Gwyrdd
>>>
>>>
>>> Ie, yn hollol, mae o'n swnio'n iawn i mi. Byddai "Urdd Werdd" yn cyfleu
>>> syniad hollol wahanol i "Urdd Gwyrdd" i mi.
>>>
>>>
>>> ----- Original Message -----
>>>
>>>
>>> From: Catrin
>>> Alun <mailto:[log in to unmask]>
>>>
>>>
>>> To: [log in to unmask]
>>> <mailto:[log in to unmask]>
>>>
>>>
>>> Sent: Wednesday, June 11, 2008 2:06 PM
>>>
>>>
>>> Subject: Re: Urdd Gwyrdd
>>>
>>>
>>> Onid cyfeirio at yr urdd fel mudiad mae Urdd Gwyrdd - hy Mudiad Gwyrdd -
>>> byddai hynny'n gwneud synnwyr i mi.
>>>
>>>
>>> Catrin
>>>
>>>
>>> ----- Original Message -----
>>>
>>>
>>> From: Siân
>>> Roberts <mailto:[log in to unmask]>
>>>
>>>
>>> To: [log in to unmask]
>>> <mailto:[log in to unmask]>
>>>
>>>
>>> Sent: Wednesday, June 11, 2008 1:04 PM
>>>
>>>
>>> Subject: Re: Urdd Gwyrdd
>>>
>>> Biti - mae'n swnio'n dda!
>>>
>>>
>>> Efallai tysen nhw'n ysgrifennu "Urdd - Gwyrdd' byddai modd arbed y
>>> sefyllfa.
>>>
>>>
>>>
>>>
>>> On 11 Jun 2008, at 12:56, Ann Corkett wrote:
>>>
>>>
>>>
>>>
>>>
>>>
>>>
>>> Mae Geraint - Prif Weithredwr y Gymdeithas, newydd dynnu fy sylw at y
>>> ffaith mai Cyfarwyddwr *Eisteddfod* yr Urdd yw'r dyn draun 'rwyf newydd
>>> ysgrifennu ato!
>>>
>>>
>>> Mae'n debyg y dylwn i fod wedi mynd ar ol Efa Gruffudd Jones, y Prif
>>> Weithredwr ( <mailto:[log in to unmask]> [log in to unmask]).
>>>
>>>
>>> Ann
>>>
>>> ----------------
>>>
>>>
>>>
>>> No virus found in this incoming message.
>>> Checked by AVG.
>>> Version: 8.0.100 / Virus Database: 270.2.0/1497 - Release Date:
>>> 11/06/2008
>>> 08:32
>>>
>>>
>>>
>>> ----------------
>>>
>>>
>>>
>>>
>>> No virus found in this incoming message.
>>> Checked by AVG.
>>> Version: 8.0.100 / Virus Database: 270.2.0/1497 - Release Date:
>>> 11/06/2008
>>> 08:32
>>>
>>>
>>>
>>>
>>> Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu. Mae
>>> Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a
>>> drosglwyddir ar'pCXP__phase0_C0'
>>> y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.
>>>
>>> Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon.
>>> Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i
>>> gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system. Gall defnyddio neu
>>> ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai
>>> nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol. Diolch i
>>> chi am
>>> eich cydweithrediad.
>>>
>>> Heddlu Gogledd Cymru
>>>
>>> Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication.
>>> North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.
>>>
>>> This communication is intended for the addressee(s) only. Please notify
>>> the sender if received in error and erase from your system. Unauthorised
>>> use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in
>>> this document may not be official policy. Thank you for your
>>> co-operation.
>>>
>>> North Wales Police
>>>
>>>
>>>
>>>
>>> Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu. Mae
>>> Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a
>>> drosglwyddir ar
>>> y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.
>>>
>>> Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon.
>>> Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i
>>> gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system. Gall defnyddio neu
>>> ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai
>>> nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol. Diolch i
>>> chi am
>>> eich cydweithrediad.
>>>
>>> Heddlu Gogledd Cymru
>>>
>>> Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication.
>>> North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.
>>>
>>> This communication is intended for the addressee(s) only. Please notify
>>> the sender if received in error and erase from your system. Unauthorised
>>> use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in
>>> this document may not be official policy. Thank you for your
>>> co-operation.
>>>
>>> North Wales Police
>>>
>>>
>>> ----------------
>>>
>>>
>>> No virus found in this incoming message.
>>> Checked by AVG.
>>> Version: 8.0.100 / Virus Database: 270.2.0/1495 - Release Date:
>>> 10/06/2008
>>> 17:11
>>>
>
|