Rhif 1 amdani, felly, achos er bod pob iaith yn newid dros y
blynyddoedd, er gwell y dylai hynny fod!
On Mon, Jun 16, 2008 at 6:03 AM, Rhisiart Hincks
<[log in to unmask]> wrote:
> Mae'r cwbl yn syml:
>
> 1. Mae 'urdd' yn fenywaidd (er bod 'y trydydd urdd' mewn Hen Gymraeg).
>
> 'Urdd Werdd' yw'r unig gyfieithiad traddodiadol.
>
> 2. A bwrw ein bod am golli 'gwerdd', ceir:
>
> Urdd Wyrdd
>
> 3. A bwrw ein bod am golli cenedl enwau pethau difywyd, er mwyn cydweddu â'r
> Saesneg:
>
> Urdd Gwyrdd
>
> Diau mai'r olaf sydd fwyaf naturiol i'r rhan fwyaf o siaradwyr ifainc, ond
> mae'n dal yn gwbl anghywir os nad ydym am i'r Gymraeg ddilyn y Saesneg ym
> mhob dim.
>
> Rhisiart
>
>
> ----- Original Message ----- From: "Eluned Mai" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Sunday, June 15, 2008 10:00 PM
> Subject: Urdd Gwyrdd
>
>
>> Yn y Llyfrgell yn Aberystwyth maen nhw'n gwneud ymdrech deg i ddilyn
>> cyfarwyddyd y Ddraig Werdd, sydd wedi llunio nifer o argymhellion i
>> helpu pobl i ymroi i wella'r amgylchedd. Mae'n ymddangos yn hollol
>> iawn defnyddio ffurf fenywaidd yr ansoddair yn y cyswllt hwn. A rhyw
>> deimlo bod y fannod ar goll efo'r llythrennau breision, pa un a ydy
>> o'n 'Urdd Gwyrdd' neu 'Urdd Werdd'. Yr hen odl 'na sy'n taflu pawb,
>> dwi'n meddwl.
>>
>> Y peryg mawr, hefyd, hefo 'Urdd Gwyrdd' ydy ei fod o'n debygol o
>> gamarwain yr hen blant. Mae geiriau sloganaidd yn aros yn y cof, fel
>> y mae geiriau darn o farddoniaeth, a chan mai plant yw'r targed yma,
>> nhw yn fwy na neb sy'n mynd i'w cofio. Onid gwell fasai ceisio osgoi
>> hyn a chael gafael ar ddywediad bach hyd yn oed gwell i gyfleu'r neges
>> bod 'Urdd Gobaith Cymru' yn fudiad gwyrdd. Efallai gallai'r Urdd
>> gynnal cystadleuaeth - am y gora i roi'r neges hon mewn geira!
>>
>> Un peth calonogol ynglyn a'r drafodaeth yma - mae'n beth da bod ni'n
>> poeni!
>>
>> Pob hwyl
>>
>> Eluned
>>
>
|