Rwy'n cytuno â David - dyw’r dadleuon ddim yn dal dŵr:
1. O safbwynt treiglo ansoddair ar ôl enw, does dim gwahaniaeth pa ragenw personol a ddefnyddir wrth gyfeirio at rywbeth – rydym yn clywed ‘nhw’ wrth sôn am lywodraeth neu senedd; rydym yn dweud ‘hi’ wrth sôn am y tywydd – ond nid yw ‘llywodraeth cryf’ na ‘thywydd dda’ yn gywir. Mae’r treiglo yn dibynnu ar genedl yr enw sydd o flaen yr ansoddair.
2. Eto, o safbwynt treiglo, cenedl y gair sy’n cyfrif - does dim ots at beth mae’r enw yn cyfeirio - allech chi ddim dweud ‘yr Wyddfa mawr’ achos rych chi’n meddwl amdani fel ‘mynydd’ yn hytrach na’r gair ‘gwyddfa’. A dyn ni ddim yn gallu dewis dweud ‘buwch gwyn’ achos ein bod ni’n meddwl amdani fel ‘anifail’ neu ‘ddarpar bryd o fwyd’. Eto, mae’r treiglo’n dibynnu ar genedl yr enw sydd o flaen yr ansoddair.
3. Rhyfedd oedd y sôn a ddaeth o Swyddfa'r Urdd am ‘angen i gyfathrebu’n glir gyda’n cynulleidfaoedd’. Braidd yn nawddoglyd - beth yn y byd sy’n aneglur ynghylch ‘Urdd Wyrdd’? Onid mwy dryslyd i blant yw gweld rhywbeth sy’n mynd yn groes i’r hyn maen nhw’n ei ddysgu yn yr ysgol – sef bod angen treiglo ansoddair ar ôl enw benywaidd?
4. Yr unig ddadl y gellid ei defnyddio yw mai enw gwrywaidd yw ‘urdd’ – ond mae angen bod yn ofalus wrth sôn am yr hyn sy’n swnio’n iawn i’r rhan fwyaf o Gymry. Am un peth, pwy sydd â’r hawl i ddweud beth yw barn y mwyafrif, heb gynnal refferendwm?! Ac wrth gwrs, mae’n gwestiwn i ba raddau y gallwn ddibynnu ar ein clust yng nghysgod dylanwad grymus y Saesneg – dyna i beth mae geiriadur a llyfr gramadeg yn dda.
Wrth gwrs, nid ni sy’n creu rheolau – mae’r rheol hon yn sefyll ers canrifoedd – ond fe fyddem ni’n creu rheol hollol newydd pe dywedem: o hyn allan cewch beidio â threiglo ar ôl enw unigol benywaidd (i) os yw rhai pobl yn dweud ‘fe’ neu ‘nhw’ wrth gyfeirio at yr hyn mae’r enw yn ei gynrychioli; (ii) os ydych chi’n gallu defnyddio enw gwrywaidd arall i ddisgrifio’r hyn mae’r enw benywaidd yn cyfeirio ato; neu (iii) os ydych chi’n credu y bydd hi’n gliriach os na treiglwch yr ansoddair. Dyna beth fyddai creu rheolau newydd rhyfedd, astrus a diangen!
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran David Bullock
Anfonwyd/Sent: 12 Mehefin 2008 08:25
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Urdd Gwyrdd
Ryn ni ar dir peryglus ofnadw erbyn hyn.
Mae'r ymdrechion i gyfiawnhau penderfyniad yr Urdd i wrth-droi canrifoedd o arfer yn mynd yn fwyfwy amheus.
Beth am
"Fysech chi ddim yn sôn am Gymdeithas yr Iaith gan ddweud "mae hi'n Gymdeithas lwyddiannus", "mae hi'n Gymdeithas fawreddog". Hynny yw, enw yw "Cymdeithas" erbyn hyn, nid disgrifiad o'r mudiad".
neu
"Fysech chi ddim yn sôn am Swyddfa'r Post gan ddweud "mae hi'n Swyddfa lwyddiannus", "mae hi'n Swyddfa fawreddog". Hynny yw, enw yw "Swyddfa" erbyn hyn, nid disgrifiad o'r mudiad".
Iawn, mae iaith yn newid dros gyfnod o amser, mae pawb yn deall ac yn derbyn hynny. Ond all rhywun ddweud wrthon ni sut mae gollwng arferion y canrifoedd yn gwella statws yr iaith neu ei ragolygon e?
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Siân Roberts
Anfonwyd/Sent: 12 Mehefin 2008 00:03
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Urdd Gwyrdd
Pe bawn i am sefydlu cymdeithas i ymwneud â materion gwyrdd, byddai "Yr Urdd Werdd" yn enw posib arni.
Er bod darganfyddiad Geraint yn siwtio fy nadl, dw i ddim yn dadlau mai enw gwrywaidd yw "urdd". Go brin y bydd ymgyrchoedd eraill o'r enw "Urdd Gofalus", "Urdd Cyffrous" - gobeithio beth bynnag!
Fysech chi ddim yn sôn am yr Urdd gan ddweud "mae hi'n Urdd lwyddiannus", "mae hi'n urdd fawreddog". Hynny yw, enw yw "Urdd"
erbyn hyn, nid disgrifiad o'r mudiad.
Yn "Urdd Gwyrdd", dw i ddim yn meddwl am "gwyrdd" fel ansoddair fel sydd yn "cadair werdd". Mae'r ddau air ar wahân i ryw raddau ac yn ateb ei gilydd.
On 12 Jun 2008, at 03:46, [log in to unmask] wrote:
> O ran pennu beth yw cenedl y gair 'Urdd' i'r rhan fwyaf o bobl heddiw,
> efallai ein bod yn defnyddio sampl sy ddim ond yn adlewyrchu barn
> carfan fechan o bobl (heb sôn am farn dyrnaid o gyfieithwyr
> penboeth!). Os gellid dangos mai gwrywaidd yw'r gair urdd gan y rhan
> fwyaf o bobl sy'n gweithio yn y mudiad hwnnw, ac yn yr ysgolion, wedyn
> dyna gloi'r ddadl yn derfynol. Y peth i'w osgoi ydy chwiwiau
> ieithyddol di-sail heb gysylltiad â'r byd go-iawn.
> O ran hwyl, p'un sy'n gywir:
> Beth yw'r Urdd? Mae hi'n fudiad ieuenctid neu Mae e/o'n fudiad
> ieuenctid.
> Paul W. Birt, PhD
> Chaire d'Études celtiques,
> Université d'Ottawa,
> 70, rue Laurier,(131)
> Ottawa,
> K1N 6N5
> Ontario
> Canada
> www.modernlanguages.uottawa.ca/celtic.html
> Tél. (613)562-5800(3767)
> Téléc/Fax (613)562-5138.
>
>
> -----Original Message-----
> From: Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
>
> Date: Wed, 11 Jun 2008 22:16:50
> To:[log in to unmask]
> Subject: Re: Urdd Gwyrdd
>
>
> Os ydi o'n swnio'n iawn i'r rhan fwyaf o'n cyd-Gymry, pwy ydan ni i
> bennu rheolau.
>
> Gweler GPC "- eb. ac yn eithriadol eg."
>
> Felly does dim dadl, nagoes? Un o'r achosion eithriadol hynny yw hwn.
>
> Geraint
>
> ----- Original Message -----
> From: <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, June 12, 2008 2:22 AM
> Subject: Re: Urdd Gwyrdd
>
>
>> Dwi'n cytuno gant y cant ag Ann, er gwaethaf y dadleuon esgotig a
>> di-sail a godir i geisio cyfiawnhau peidio â threiglo neu ddefnyddio
>> ffurf fenywaidd yr ansoddair. Nid oes amau nad 'mudiad' ydy'r Urdd,
>> ond nid ar sail ystyr neu arwyddocâd gair y pennir cenedl gair
>> ychwaith. Y broblem, fwy na thebyg yw fod y gair 'urdd' yn brin
>> bellach yn y Gymraeg heblaw am y 'mudiad' ieuenctid, ac aeth cenedl y
>> gair yn niwlog o'r herwydd.
>> Mae gan
>> ieithoedd eu rheolau mewnol, ac os na pherchir y rhain, waeth inni
>> heb roi'r delyn y y llwyn.
>>
>> Paul W Birt (gweithiwr ar Eiriadur yr Academi gynt).
>> Paul W. Birt, PhD
>> Chaire d'Études celtiques,
>> Université d'Ottawa,
>> 70, rue Laurier,(131)
>> Ottawa,
>> K1N 6N5
>> Ontario
>> Canada
>> www.modernlanguages.uottawa.ca/celtic.html
>> Tél. (613)562-5800(3767)
>> Téléc/Fax (613)562-5138.
>>
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Ann Corkett <[log in to unmask]>
>>
>> Date: Wed, 11 Jun 2008 20:38:13
>> To:[log in to unmask]
>> Subject: Re: Urdd Gwyrdd
>>
>>
>> 110 Clean DocumentEmail false false false MicrosoftInternetExplorer4
>> Ydy hyn yn goglygu nad oes angen treiglo ar ol "Cymdeithas" na
>> "Llywodraeth" na "Senedd" na "Plaid"?
>>
>> O ran arwyddair yr Urdd, gan fod yr Urdd wedi bod yn ystyried cael
>> gwared arno'n weddol ddiweddar, 'dw i'n amau nad yw'r plant yn clywed
>> llawer ohono. Mae rhywun yn cynefino a'r hyn mae'n ei glywed. Pan
>> oeddwn i'n dysgu siarad Cymraeg, 'roeddwn i'n hollol hapus a'r gair
>> "briwgig" am "mince" heb sylweddoli iddo ddod o'r Gododdin, ac mae'n
>> debyg y byddwn i wedi cynefino a "diddosben" a "perdoneg" tasai
>> rhywun wedi dweud wrthyf mai dyna oedd y geiriau ar gyfer het a
>> phiano. Byddai'r plant wedi cynefino ag "Urdd Werdd" o gael y cyfle,
>> ond rwan mi fyddan nhw'n cynefino ag "Urdd Gwyrdd".
>>
>> Er gwybodaeth, dyma ymateb Prif Weithredwr yr Urdd. Mae'n ymddangos y
>> bydd rhai ohonoch yn hapus arno. Dw i ddim yn siwr, o'r neges, a ydy
>> swyddogion yr Urdd wedi defnyddio'r slogan am nad oeddent yn gwybod
>> yn well ynteu am nad oeddent yn malio.
>> Ann
>>
>>
>> Annwyl Ann
>> Diolch yn fawr i chi am eich e-bost.
>> Mae cynnal safonau ieithyddol yn rhywbeth sy’n agos at fy nghalon.
>> Mae’r
>> Urdd yn un o’r ychydig sefydliadau yng Nghymru sy’n cynnig awyrgylch
>> gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg – a thrwy hynny gwn ein bod yn
>> cyfoethogi a gwella sgiliau iaith nifer fawr o’n gweithwyr. Rwy’n
>> ymwybodol bod sgiliau megis prawfddarllen a drafftio cywir yn brin
>> iawn iawn ac rydym yn gwneud ymdrech bwriadol i ddatblygu’r rhain
>> ymysg ein staff.
>> Fodd bynnag, rwy’n ymwybodol hefyd o’r angen i gyfathrebu’n glir
>> gyda’n cynulleidfaoedd. Nod y teitl ‘Urdd Gwyrdd’ oedd denu sylw at
>> ein amrywiol gynlluniau – a llunio theitl byr, bachog a fyddai’n aros
>> yn y cof.
>> Mae
>> wedi llwyddo i wneud hynny. Rwy’n berffaith hapus ein bod wedi
>> defnyddio’r teitl, beth bynnag yw eich barn am ei gywirdeb
>> ieithyddol.
>> Yn wir – rydym fel mudiad yn defnyddio’r gair ‘Urdd’ i olygu ein
>> mudiad.
>> Mae ‘mudiad’ hyd y gwn yn air gwrywaidd – ac felly byddwn yn dadlau
>> fod ‘mudiad gwyrdd’ yn gywir – ac felly fod ‘Urdd Gwyrdd’ yn
>> dderbyniol. Nid ‘guild’ yw ei ystyr i ni – mae’r gair Urdd wedi dod
>> yn gyfystyr a Mudiad Urdd Gobaith Cymru.
>> Byddwn yn croesawu gweld unrhyw lythyr o’ch eiddo yn ymddangos yn y
>> wasg ar y testun – neu mae croeso i chi ohebu ymhellach a mi.
>> Diolch am dynnu fy sylw at y mater – ac am ddangos diddordeb yn ein
>> gwaith.
>> Yn gywir
>> Efa
>>
>> ----- Original Message -----
>> From: Puw, John <mailto:[log in to unmask]>
>> To: [log in to unmask]
>> <mailto:[log in to unmask]>
>> Sent: Wednesday, June 11, 2008 5:13 PM
>> Subject: Re: Urdd Gwyrdd
>>
>>
>>
>> Finne hefyd yn y cyd-destun hwn – Mudiad ydi’r Urdd, a’r cwbl ydi’r
>> gair Urdd erbyn hyn yw enw ar y mudiad.
>>
>> Hwn ydi’r unig Urdd o’r fath. Faint o blant sy’n cofio “Dros Gymru,
>> Dros Gyd-ddyn, Dros Grist” tybed – ond fe fydd Urdd Gwyrdd yn sicr o
>> afael yn nychymig pobl ifanc.
>>
>>
>>
>> John Puw
>> GRNCM; TAR / PGCE;
>> Aelod Cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru Full Member of
>> Association of Welsh Translators and Interpreters Cyfieithydd /
>> Translator Uned Gyfieithu / Translation Unit Adran Gwasanaethau Iaith
>> Gymraeg / Welsh Language Services Department Ffôn / Tel: 01492 805135
>> Est / Ext: 05135 E-bost / E-mail:
>> <mailto:[log in to unmask]>
>> [log in to unmask]
>> Gwefan / Website: <http://www.youtube.com/watch?v=z7y9hBCgtCY>
>> http://www.youtube.com/watch?v=z7y9hBCgtCY
>>
>>
>>
>>
>> ----------------
>>
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of
>> Geraint Lovgreen
>> Sent: 11 June 2008 17:04
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: Urdd Gwyrdd
>>
>>
>> Dwi'n cytuno.
>>
>> ----- Original Message -----
>>
>> From: Siân Roberts <mailto:[log in to unmask]>
>>
>> To: [log in to unmask]
>> <mailto:[log in to unmask]>
>>
>> Sent: Wednesday, June 11, 2008 4:30 PM
>>
>> Subject: Re: Urdd Gwyrdd
>>
>>
>> Ond pan fyddwn ni'n sôn am yr Urdd, nid am "a guild" fyddwn ni'n
>> meddwl.
>> Nid "a green guild" yw "Urdd Gwyrdd"
>>
>> Dw i ddim yn meddwl bod pobl yn sôn am yr Urdd fel "hi".
>>
>> "Fe" - y mudiad - neu "nhw" sy'n cael ei ddefnyddio dw i'n meddwl.
>>
>>
>>
>>
>>
>>
>>
>>
>> On 11 Jun 2008, at 16:18, Catrin Alun wrote:
>>
>>
>>
>>
>> O'n i ddim yn cofio am y Blaid Werdd!
>>
>> ----- Original Message -----
>>
>> From: David
>> Bullock <mailto:[log in to unmask]>
>>
>> To: [log in to unmask]
>> <mailto:[log in to unmask]>
>>
>> Sent: Wednesday, June 11, 2008 4:01 PM
>>
>> Subject: Re: Urdd Gwyrdd
>>
>>
>>
>>
>> Ie, ond pam na fydden nhw wedi dweud Urdd Wyrdd?
>>
>> (Ac erbyn meddwl, mae’r Blaid Werdd wedi bod o gwmpas ers sbel heb i
>> neb ddweud bod hynny’n cyfleu syniad gwahanol i blaid gwyrdd).
>>
>> size=2 width="100%" align=center tabIndex=-1>
>>
>> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology
>> and vocabulary [mailto:[log in to unmask]
>> <mailto:[log in to unmask]> ] Ar ran Geraint
>> Lovgreen
>> Anfonwyd/Sent: 11 Mehefin 2008 15:47
>> At/To: [log in to unmask]
>> <mailto:[log in to unmask]>
>> Pwnc/Subject: Re: Urdd Gwyrdd
>>
>>
>> Ie, yn hollol, mae o'n swnio'n iawn i mi. Byddai "Urdd Werdd" yn
>> cyfleu syniad hollol wahanol i "Urdd Gwyrdd" i mi.
>>
>>
>> ----- Original Message -----
>>
>>
>> From: Catrin
>> Alun <mailto:[log in to unmask]>
>>
>>
>> To: [log in to unmask]
>> <mailto:[log in to unmask]>
>>
>>
>> Sent: Wednesday, June 11, 2008 2:06 PM
>>
>>
>> Subject: Re: Urdd Gwyrdd
>>
>>
>> Onid cyfeirio at yr urdd fel mudiad mae Urdd Gwyrdd - hy Mudiad
>> Gwyrdd - byddai hynny'n gwneud synnwyr i mi.
>>
>>
>> Catrin
>>
>>
>> ----- Original Message -----
>>
>>
>> From: Siân
>> Roberts <mailto:[log in to unmask]>
>>
>>
>> To: [log in to unmask]
>> <mailto:[log in to unmask]>
>>
>>
>> Sent: Wednesday, June 11, 2008 1:04 PM
>>
>>
>> Subject: Re: Urdd Gwyrdd
>>
>> Biti - mae'n swnio'n dda!
>>
>>
>> Efallai tysen nhw'n ysgrifennu "Urdd - Gwyrdd' byddai modd arbed y
>> sefyllfa.
>>
>>
>>
>>
>> On 11 Jun 2008, at 12:56, Ann Corkett wrote:
>>
>>
>>
>>
>>
>>
>>
>> Mae Geraint - Prif Weithredwr y Gymdeithas, newydd dynnu fy sylw at y
>> ffaith mai Cyfarwyddwr *Eisteddfod* yr Urdd yw'r dyn draun 'rwyf
>> newydd ysgrifennu ato!
>>
>>
>> Mae'n debyg y dylwn i fod wedi mynd ar ol Efa Gruffudd Jones, y Prif
>> Weithredwr ( <mailto:[log in to unmask]> [log in to unmask]).
>>
>>
>> Ann
>>
>> ----------------
>>
>>
>>
>> No virus found in this incoming message.
>> Checked by AVG.
>> Version: 8.0.100 / Virus Database: 270.2.0/1497 - Release Date:
>> 11/06/2008
>> 08:32
>>
>>
>>
>> ----------------
>>
>>
>>
>>
>> No virus found in this incoming message.
>> Checked by AVG.
>> Version: 8.0.100 / Virus Database: 270.2.0/1497 - Release Date:
>> 11/06/2008
>> 08:32
>>
>>
>>
>>
>> Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu.
>> Mae
>> Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a
>> drosglwyddir ar
>> y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.
>>
>> Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y
>> neges hon.
>> Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i
>> gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system. Gall defnyddio neu
>> ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon.
>> Efallai
>> nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol. Diolch i
>> chi am
>> eich cydweithrediad.
>>
>> Heddlu Gogledd Cymru
>>
>> Internet e-mail is not to be treated as a secure means of
>> communication.
>> North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.
>>
>> This communication is intended for the addressee(s) only. Please
>> notify
>> the sender if received in error and erase from your system.
>> Unauthorised
>> use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions
>> expressed in
>> this document may not be official policy. Thank you for your co-
>> operation.
>>
>> North Wales Police
>>
>>
>>
>>
>> Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu.
>> Mae
>> Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a
>> drosglwyddir ar
>> y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.
>>
>> Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y
>> neges hon.
>> Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i
>> gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system. Gall defnyddio neu
>> ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon.
>> Efallai
>> nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol. Diolch i
>> chi am
>> eich cydweithrediad.
>>
>> Heddlu Gogledd Cymru
>>
>> Internet e-mail is not to be treated as a secure means of
>> communication.
>> North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.
>>
>> This communication is intended for the addressee(s) only. Please
>> notify
>> the sender if received in error and erase from your system.
>> Unauthorised
>> use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions
>> expressed in
>> this document may not be official policy. Thank you for your co-
>> operation.
>>
>> North Wales Police
>>
>>
>> ----------------
>>
>>
>> No virus found in this incoming message.
>> Checked by AVG.
>> Version: 8.0.100 / Virus Database: 270.2.0/1495 - Release Date:
>> 10/06/2008
>> 17:11
>>
|