Priod faes CBAC yw gweinyddu arholiadau. Nid yw hynny'n golygu bod y corff
hwnnw'n feistr ar y Gymraeg. Fe welwch fod CBAC hefyd yn sillafu 'annhebyg'
gydag un 'n' (http://www.cbac.co.uk/index.php?nav=6) - ond dwi ddim yn credu
y byddaf yn eu dilyn nhw yn hynny o beth ychwaith.
Ansoddair yw 'dynol'. Enw unigol benywaidd yw 'bioleg'. Mae ansoddeiriau yn
treiglo ar ôl enw unigol benywaidd. Mae ambell i eithriad: e.e. enwau
ieithoedd [PWT 4.10] ac ati [PWT 4.10[a]; Treigl. &'u Cyst. TJM t.56, 60
etc]. Nid yw 'bioleg' yn eu plith, hyd y gwelaf.
Felly ... 'bioleg ddynol'.
Diddorol yw gweld bod gwall yn gyffredin ar y we, ond llyfr gramadeg yw'r
ffynhonnell orau i dorri dadl ramadegol.
Nid yw'n hollol berthnasol, efallai, ond mae'n dwyn i gof geiriau Dafydd
Glyn Jones: "Mae yna fath o rodreswr sy'n rhy pwysig i treiglo. Fe wyddoch
amdano. ... Weithiau mae rhywun yn dweud dan ei wynt, a hwyrach y dylai ei
ddweud yn uchel: 'Be haru ti'r tw-lal gwirion? Pam na threigli di 'run fath
â rhywun arall er mwyn dyn?'" !
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Saunders, Tim
Anfonwyd/Sent: 01 Mai 2008 13:01
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: human biology
Cytuno. Wiw i ni anwybyddu arfer a defnydd cyrff awdurdodol yn eu priod
feysydd.
Tim
Tim Saunders
Cyfieithydd / Translator
Uned Cyfieithu Cyngor Rhondda Cynon Taf / Rhondda Cynon Taf Council
Translation Unit Ty Trevithick Abercynon Rhondda Cynon Taf CF45 4UQ Ffôn
+44-(0)-1443-744000
Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o
angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Cyngor Rhondda Cynon Taf.
Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn
gyfreithiol freintiedig.
Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os
derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad, dylid hysbysu'r anfonydd a
dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda.
Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n
gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig, fe'ch hysbysir gan hyn
na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r
e-bost ar unrhyw gyfrif.
Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.
This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view
of Rhondda Cynon Taf Council.
The information contained in this communication is confidential. It may be
legally privileged.
It is intended only for the person or entity named above.
If you have received this e-mail in error please notify originator and erase
this e-mail from your system.
If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible
for delivering it to the intended recipient, you are hereby notified that
any use, review, dissemination, distribution or copying of the e-mail is
strictly prohibited. To do so may be unlawful.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Jones,Sylvia Prys
Sent: 01 May 2008 12:22
To: [log in to unmask]
Subject: Re: human biology
Rhisiart Hincks wrote:
>
> Ymddengys yn wirion creu eithriadau i rywbeth mor syml - eg (b) yn
> achos pob gwyddor. Benywaidd yn unig ydyw yn GPC a dyna yn unig sydd yn
gywir.
> Rhisiart
>
> ----- Original Message -----
> *From:* Rhian Jones <mailto:[log in to unmask]>
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> *Sent:* Wednesday, April 30, 2008 12:14 PM
> *Subject:* Re: human biology
>
> Bioleg Dynol mae CBAC yn ei ddefnyddio.
> Rhian
Efallai mai 'bioleg ddynol' sy'n 'gywir' ond yn sicr mae llawer iawn mwy o
enghreifftiau o 'bioleg dynol'na 'bioleg ddynol'. Tybed ydi'r glust yn dilyn
yr un patrwm ag ar gyfer ieithoedd sy'n gorffen efo eg ond yn wrywaidd. Neu
fel mae Geraint yn awgrymu efallai fod pobl yn teimlo'n reddfol mai enw
ddylai fod yno. Yn sicr mae Cymraeg yn defnyddio llawer mwy o enwau nag
ansoddeiriau i ddiffinio meysydd e.e. cellular biology -
bioleg y gell. marine biology - bioleg y môr.
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Uned Gyfieithu/Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Cymru, Bangor/University of Wales, Bangor
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, gynnwys
deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig gan y sawl y
cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y neges e-bost hon
trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith a dilëwch y neges. Os
na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw
neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu
safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn
cynrychioli barn Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu bod y
neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn
ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr
e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae
rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Bangor.
www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and is
solely for the use of the intended recipient(s). If you have received this
email in error, please notify the sender immediately and delete this email.
If you are not the intended recipient(s), you must not use, retain or
disclose any information contained in this email. Any views or opinions are
solely those of the sender and do not necessarily represent those of the
Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or any attachments are
free from viruses or 100% secure. Unless expressly stated in the body of
the text of the email, this email is not intended to form a binding contract
- a list of authorised signatories is available from the Bangor University
Finance Office. www.bangor.ac.uk
|