Rwy'n cydymdeimlo, David, waeth rwyf finne'n cael yr un benbleth. Rwy'n
clywed dwy ffordd o ddehongli, sef 'dwy flynedd' academaidd, h.y. 'dwy
flynedd' fel eitem, a'r llall yn ddwy 'flwyddyn academaidd', h.y. 'blwyddyn
academaidd' yn eitem. Fel rheol, mi fydda i'n gweld mai'r ail ystyr sydd
yna. Rwy'n edrych ymlen at gael goleuni.
Mary
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of David Bullock
Sent: 18 April 2008 09:30
To: [log in to unmask]
Subject: Blwyddyn academaidd
Oes unrhyw un arall yn meddwl bod 'tair blynedd acadamaidd' yn swnio'n
rhyfedd?
Mae Geiriadur yr Academi yn dangos bod 'blwyddyn' yn gallu bod yn iawn ar
ôl rhifol ("Dwy flwyddyn dda oedd 1951 a 1963").
Ydy 'tair blwyddyn academaidd' neu 'pedair blwyddyn ariannol' yn
dderbyniol?
This message has been scanned for viruses and
dangerous content by SAQNET SpamAlizer www.saq.co.uk, and is
believed to be clean.
|